Goruchwylio’r gweithgarwch rigio a dad-rigio ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio tîm rigio. Bydd angen i chi ddehongli, a lle’n briodol, ymgynghori ac addasu’r dyluniad rigio ac yna goruchwylio gwaith o baratoi, marcio a gosod gwaith rigio a dad-rigio i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni’n ddiogel ac yn effeithlon.
Mae’r rigio y cyfeirir ato mewn cynyrchiadau theatr a byw yn wahanol ac ar wahân i rigio adloniant. Mewn cynyrchiadau theatr a byw mae rigio yn cyfeirio at osod cyfarpar cynhyrchu technegol, golygfeydd a gosod tâp masgio ar gyfarpar rigio neu gydosod elfennau golygfaol neu dechnegol ar gyfer cynhyrchiad.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â goruchwylio gwaith rigio a dad-rigio ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio ardaloedd gwaith yn unol â’r cynlluniau gan ddangos sensitifrwydd tuag at y lleoliad a chontractwyr eraill
- gwirio mai’r pwyntiau rigio yw’r rheiny sydd wedi’u nodi a’u cymeradwyo i’w defnyddio
- goruchwylio diogelwch gwaith ar y safle, gan sicrhau bod asesiadau risg, datganiadau dulliau a chynlluniau achub yn cael eu cyfathrebu i eraill
- gweithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer mewn ymateb i unrhyw risgiau annisgwyl neu arferion gweithio anniogel
- amserlennu gwaith mewn ffyrdd sy’n gwella diogelwch pobl eraill
- darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r bobl sy’n gyfrifol am adeiladu strwythurau a gosod at ddeunydd y strwythur ategol
- goruchwylio gosod gwaith rigio, sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- gwirio bod rigio crograffau eilaidd yn gywir ac yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- mynd i’r afael â gwyriadau oddi wrth gynlluniau neu ddyluniau rigio fel bod y rigio a’r dad-rigio yn parhau i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cynnig cyngor ar ddewis a defnyddio cyfarpar ac ategolion yn unol â’r egwyddorion rigio, y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- cynnig gwybodaeth sy’n ymwneud â manylebau’r cyfarpar codi a’r ategolion a ddefnyddir
- gwirio a chadarnhau bod y gwaith dad-rigio yn cael ei gyflawni yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer a bod yr holl gyfarpar a’r ategolion yn cael eu storio a bod y safle yn cael ei adael yn lân ac yn daclus
- cadw cofnodion yn unol â’r prosesau sefydliadol
- cymeradwyo a throsglwyddo gwaith sydd wedi’i gwblhau i’r bobl gyfrifol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynnal asesiad risg yn unol â’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- sut i ddehongli asesiadau risg
- manylebau technegol y cyfarpar codi a’r ategolion ar gyfer codi a phwysigrwydd cynnal gwiriadau cyn defnyddio
- sut i gyfrifo grymoedd onglog er enghraifft rhaffau angori, sut i ddefnyddio byrddau llwythi a pherthnasedd amodau llwythi ar strwythurau
- sut i gyfrifo’r llwythi a dosbarthiad y llwyth arfaethedig ar strwythurau
- egwyddorion sylfaenol gwaith dur strwythurol ac effeithiau llwythi ar adeiladau
- gofynion rigio’r cynhyrchiad a sut i ddefnyddio’r wybodaeth honno yng nghyd-destun y lleoliad
- sut i ddehongli’r dyluniad rigio i restr o gyfarpar ac adnoddau
- sut i lunio cynlluniau rigio, datganiadau dulliau a sut i amserlennu elfennau o waith rigio
- sut i fynd i’r afael â gwyriadau oddi wrth y cynlluniau rigio
- egwyddorion llwyth gweithio diogel, terfyn llwyth gweithio, statig syml a deunyddiau rigio a’u cydnawsedd
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda’r timau rigio
- pwysigrwydd derbyn awdurdodaeth i ddefnyddio cymalau strwythurol ar gyfer pwyntiau neu ategion rigio
- yr egwyddorion ymarfer gorau o ran dulliau a thechnegau rigio
- y manylebau sy’n ofynnol i rigio crograffau eilaidd digonol
- goblygiadau darparu gwybodaeth llwyth cywir i’r lleoliad ac i unrhyw bobl sy’n gyfrifol am greu atodiadau
- y gofynion ar gyfer cadw cofnodion, cymeradwyo a throsglwyddo gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer