Cynnal a chadw peiriannau awtomeiddio a llwyfan ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL32
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni gwaith cynnal a chadw mewnol sylfaenol a datrys problemau cam cyntaf i adnabod a chanfod namau ar systemau awtomeiddio; i sicrhau ei diogelwch a’u dibynadwyedd gweithredol.
Mae’n ymwneud â chwblhau gwiriadau rheolaidd, cyflawni gwaith cynnal a chadw arferol ac adrodd am broblemau na ellir eu hatgyweirio, gan weithio’n unol â phrotocolau cynnal a chadw a gweithdrefnau diogelwch.
Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr Awtomeiddio a thechnegwyr awtomeiddio Golygfaol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis offer, cyfarpar a deunyddiau ar gyfer y gydran rydych yn gweithio arno
- cyflawni gwiriadau cynnal a chadw yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnyn nhw a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- perfformio gwaith cynnal a chadw arferol ar systemau pŵer mecanyddol, rheoli a hylif
- adnabod a chanfod namau cyffredin mewn systemau awtomeiddio
- dilyn gweithdrefnau ar gyfer unrhyw eitemau neu gydrannau sydd angen sylw ar unwaith
- adrodd am unrhyw broblemau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol, gan eu cyfeirio at eraill os oes angen cymorth arbenigol
- defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr ac yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch
- gweithio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer fel bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau’n ddiogel, yn bwrpasol ac yn bodloni gofynion y perfformiad
- cofnodi gwybodaeth am wiriadau a gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i gyflawni mewn systemau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr amserlenni cynnal a chadw
- y protocolau cynnal a chadw ar gyfer systemau awtomeiddio
- sut i gaffael a dehongli cyfarwyddiadau gwneuthurwyr a pham mae’n rhaid i chi eu dilyn
- yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer cynnal a chadw a sut i’w defnyddio
- yr ystod o anghenion cynnal a chadw neu atgyweirio rydych yn debygol o’u canfod mewn systemau awtomeiddio a sut i’w hadnabod
- sut i ddefnyddio diagnosteg ar gyfer systemau trydanol, mecanyddol a rheoli
- y mesurau diogelwch sy’n berthnasol yn ystod gwaith cynnal a chadw a datrys problemau
- eich lefel bersonol o gyfrifoldeb a chymhwysedd ar gyfer cynnal a chadw a phryd ac i bwy y dylech chi gyfeirio problemau atyn nhw
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i gynnal a chadw systemau awtomeiddio
- sut i gynnal cofnodion cynnal a chadw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSTTL32
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd awtomeiddio
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cynnal; awtomeiddio; peiriannau llwyfan; cynyrchiadau theatr a byw;