Cynnal cydrannau golygfaol, systemau codi a gostwng a chelfi ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL31
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni gwaith cynnal a chadw mewnol, atgyweirio a glanhau i gydrannau golygfaol, systemau codi a gostwng neu gelfi. 

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod nifer digonol o gelfi ar gael ar gyfer cynyrchiadau ac y bydd celfi yn gweithio drwy gydol y cyfnod cynhyrchu. Mae’n ymwneud â chyflawni gwiriadau rheolaidd, cyflawni atgyweiriadau sylfaenol ac amnewid eitemau na ellir eu hatgyweirio. 

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n cynnal a chadw cydrannau golygfaol, systemau codi a gostwng neu gelfi ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni gwiriadau yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnyn nhw a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  2. cofnodi gwybodaeth am wiriadau a gwaith cynnal a chadw
  3. cael gwared ar eitemau na ellir eu glanhau neu eu hatgyweirio ar unwaith, gan eu hamnewid am eitemau addas yn eu lle
  4. dilyn gweithdrefnau ar gyfer unrhyw eitemau neu gydrannau sydd angen sylw yn ddi-oed
  5. cyflawni gwaith cynnal a chadw ac atgyweiriadau o fewn eich cylch gorchwyl ac yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  6. adrodd am anghenion cynnal a chadw neu atgyweirio sydd y tu hwnt i’ch cylch gorchwyl, yn unol â’r gofynion sefydliadol y mae’n rhaid i rywun arall fynd i’r afael â nhw, i’r bobl briodol yn ddi-oed
  7. trefnu gofod gweithio diogel i gyflawni eich gwaith
  8. dewis offer, cyfarpar, deunyddiau a dulliau gweithio ar gyfer y gydran rydych yn gweithio arni a’r gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio sydd ei angen
  9. adrodd am unrhyw broblem yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  10. defnyddio cyfarpar a deunyddiau yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr ac yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch
  11. cyflawni gwaith yn unol â’r cyfarwyddiadau i sicrhau bod gwaith sydd wedi’i gwblhau yn ddiogel, yn ddefnyddiol ac yn bodloni gofynion y perfformiad
  12. gwirio bod eitemau’n lân a heb unrhyw frychau ar ôl cynnal a chadw neu atgyweirio
  13. dychwelyd eitemau i’w lleoliad cywir a’u gosod mewn pryd ar gyfer y perfformiad
  14. storio’r deunyddiau a’r cyfarpar yn y lleoliadau cywir ac yn unol â’r gofynion diogelwch
  15. dychwelyd celfi a deunyddiau eraill i gyflenwyr neu logwyr neu eu storio mewn cyflwr glân a phriodol ar y cyd â’r dogfennau gofynnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr amserlenni archwilio
  2. pwysigrwydd gwirio cydrannau golygfaol a systemau codi a gostwng
  3. sut i gaffael a dehongli cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a pam mae’n rhaid i chi eu dilyn
  4. yr ystod o anghenion cynnal a chadw neu atgyweirio rydych yn debygol o’u canfod mewn cydrannau golygfaol, cydrannau codi a gostwng a chyfarpar codi a gostwng a sut i’w hadnabod
  5. sut i adnabod eitemau sydd angen eu hatgyweirio, eu glanhau neu eu hamnewid
  6. pa gelfi gellir eu hailgylchu, a’r dulliau ailgylchu perthnasol
  7. y gweithdrefnau ar gyfer amddiffyn celfi gan gynnwys celfi o werth uwch
  8. eich lefel personol o gyfrifoldeb a chymhwysedd ar gyfer cynnal a chadw, glanhau neu atgyweirio
  9. pwy ddylech roi gwybod iddyn nhw os yw’r difrod y tu hwnt i’ch lefel cyfrifoldeb neu gymhwysedd chi
  10. y mathau o waith cynnal a chadw neu atgyweirio sydd angen ei gwblhau ar unwaith a’r gweithdrefnau i’w dilyn
  11. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i gynnal a chadw systemau a’r cydrannau codi a gostwng
  12. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i’r defnydd o ddeunyddiau, prosesau a thechnoleg
  13. sut i drefnu eich gwaith er mwyn i chi ei gyflawni’n ddiogel
  14. sut i adnabod pan na ellir cyflawni gwaith ar y set a’r gweithdrefnau i’w dilyn i fynd i’r afael ag o
  15. yr ystod o offer, cyfarpar a deunyddiau ar gyfer y mathau o waith cynnal a chadw sy’n cael ei gyflawni a sut i’w defnyddio
  16. nodweddion gweledol gwahanol y deunyddiau sydd i’w atgyweirio
  17. y problemau y gallech eu hwynebu wrth gyflawni gwaith cynnal a chadw, atgyweirio neu lanhau terfynol a pham ac i bwy y dylech chi eu hadrodd
  18. y gwiriadau terfynol i’w cyflawni i sicrhau bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn ddiogel, yn ddefnyddiol ac o’r wedd gywir
  19. sut i gynnal a chadw cofnodion cynnal a chadw
  20. y gofynion storio, ailgylchu a gwaredu ar gyfer deunyddiau, cyfarpar a chelfi
  21. y gofynion hylendid penodol ar gyfer ymdrin ag a storio nwyddau traul a pherifferolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL23

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynnal; cydrannau golygfaol; systemau codi a gostwng; celfi; cynyrchiadau theatr a byw;