Cwblhau gwiriadau cyn y sioe ac amserlen sioe ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL30
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chwblhau gwiriadau cyn y sioe drwy gyfrannu tuag at baratoi ar gyfer pob perfformiad drwy lanhau a chlirio, paratoi celfi ac elfennau golygfaol. 

Mae’r safon hon hefyd yn ymdrin â chwblhau amserlenni sioeau drwy sicrhau caiff newidiadau eu cyflawni yn ystod y perfformiad sy’n unol â’r plot a threfn y perfformiad a sicrhau caiff y cydrannau eu clirio a’u storio’n briodol ar ôl i’r cynhyrchiad ddod i ben.

Bydd angen i chi hefyd gynnig cymorth i bobl eraill yn ôl yr angen ac ymateb yn gyflym ac yn bendant i unrhyw geisiadau.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chwblhau gwiriadau cyn y sioe yn ogystal ag amserlenni sioe ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. clirio a glanhau’r llawr gan gael gwared ar falurion diangen yn unol â’r cyfarwyddiadau
  2. ail-osod cydrannau, pecynnau a gosodiadau golygfaol yn unol â’r plot a threfn y perfformiad
  3. cyflawni gwiriadau penodol, cywiro neu adrodd am eitemau sydd ddim yn y cyflwr penodedig
  4. gwirio a chadarnhau bod yr holl eitemau’n cael eu cludo a’u storio’n gywir yn ystod a rhwng perfformiadau
  5. gosod cydrannau golygfaol mewn safleoedd llonydd penodedig
  6. symud cydrannau golygfaol mewn ffordd lyfn a rheoledig, heb symudiadau am yn ôl
  7. symud cydrannau golygfaol yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer i liniaru perygl o anaf neu ddifrod
  8. cyfrannu’r wybodaeth hanfodol i adroddiadau’r sioe ac adroddiadau gofynnol eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwiriadau sydd angen eu cynnal cyn y perfformiad a pham
  2. sut i gyfathrebu gydag aelodau tîm, cydweithwyr a rheolwyr llinell yn ystod perfformiad
  3. y derminoleg llwyfan a’i hystyr, gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  4. y safleoedd llonydd cywir ar gyfer y cydrannau golygfaol
  5. pam mae’n rhaid i chi symud cydrannau’n llyfn a heb eu symud am yn ôl
  6. perygl symud cydrannau golygfaol pan na ddylech chi wneud hynny
  7. y technegau trin a chodi diogel
  8. pryd ac i bwy ddylech chi roi gwybod iddyn nhw am broblemau na allwch chi fynd i’r afael â nhw
  9. pwysigrwydd cadarnhau eich cyfarwyddiadau
  10. sut i ddarparu a dehongli gwybodaeth am y cydrannau, y pecynnau a’r gosodiadau
  11. pwysigrwydd clirio a glanhau’r llawr a chael gwared ar falurion diangen
  12. y protocolau derbyniol ar gyfer procio
  13. sut i rannu gwybodaeth a chyfrannu at adroddiadau sioeau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSTTL30

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cwblhau; gwiriadau cyn y sioe; amserlen sioe; cynyrchiadau theatr a byw;