Dehongli a chynllunio delweddau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli briff a chynlluniau delweddau a fydd yn cael eu defnyddio mewn cynyrchiadau theatr a byw. Gallai delweddau olygu, ond heb fod yn gyfyngedig i, tafluniadau, hologramau a fideos. Bydd angen i chi ddehongli dyluniadau, chwilio am unrhyw wybodaeth ychwanegol a pharatoi cynlluniau manwl, cywir ac ymarferol mewn ymgynghoriad ag aelodau eraill o’r tîm.  

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chynllunio delweddau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth i gynllunio delweddau, gan ofyn am gyngor a chymorth pan fo’i angen
  2. nodi a chadarnhau’r gofynion ar gyfer delweddau, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd, terfynau a chyfyngiadau
  3. trin a thrafod newidiadau priodol ar gyfer y cynlluniau gyda gwneuthurwyr penderfyniadau pan nad oes modd bodloni’r gofynion
  4. dewis cyfarpar i fodloni gofynion y cynhyrchiad, gan ystyried agweddau technegol ac ariannol ac a yw’r cyfarpar ar gael
  5. cynllunio safleoedd rigio ar gyfer cyfarpar sy’n cynnig yr ansawdd gorau posibl ar gyfer delweddau o fewn cyfyngiadau lleoliadau
  6. datblygu cynlluniau rigio sy’n manteisio i’r eithaf ar eglurder delweddau ar gyfer y gynulleidfa gyfan
  7. ystyried y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer defnyddio deunyddiau, prosesau, technoleg a’r lleoliadau sydd ynghlwm
  8. cynllunio dewis a lleoliad y cyfarpar i ganiatáu ar gyfer cynnal cynyrchiadau
  9. dilyn cynlluniau wrth gefn, o fewn cyfyngiadau’r gyllideb, pan fo cyfarpar yn methu
  10. llunio manylebau ar gyfer y delweddau rydych chi’n eu llunio
  11. defnyddio gwybodaeth i gydnabod a chynnig cyngor ar orwariant posibl yn y gyllideb
  12. cadw cofnodion o’r cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ble i gaffael gwybodaeth am ofynion y cynhyrchiad
  2. effeithiau’r gwahanol ffurfiau llwyfan ar y delweddau a’u pwysigrwydd
  3. pwy sy’n gyfrifol am ddyluniadau a’r gofynion creadigol a thechnegol a sut y byddwch chi’n cael eich hysbysu o unrhyw newidiadau i’r gofynion dylunio
  4. sut i ddadansoddi gofynion dyluniadau ar gyfer delweddau, gan gynnwys gwahanol ddulliau ar gyfer delweddau sydd wedi’u recordio ymlaen llaw neu ddelweddau byw
  5. sut y gall dyluniadau, lleoliadau a gweithgarwch goleuo effeithio ar ddelweddau
  6. y ffurfiau a’r arferion a ddefnyddir mewn manylebau diagramatig ac ysgrifenedig, gan gynnwys y symbolau, y derminoleg a’r arferion a ddefnyddir ar gyfer darluniau a manylebau trydanol, mecanyddol neu electronig
  7. y mathau o ddarluniau a ddefnyddir ar gyfer delweddau gan gynnwys darluniau sgematig, sut maen nhw’n cydgysylltu, sut i echdynnu gwybodaeth ddimensiynol neu ystadegol ohonyn nhw a nodi meysydd sy’n aneglur neu’n anghyflawn
  8. y derminoleg llwyfan a’i ystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  9. cyfyngiadau a therfynau amser cynhyrchu, ariannol ac adnoddau, y paramedrau ansawdd ar gyfer y gwaith a’r hyblygrwydd ynghylch y cyfyngiadau y cytunwyd arnyn nhw
  10. rolau a chyfrifoldebau aelodau’r tîm creadigol a thechnegol
  11. y llinellau cyfathrebu, sut i hyrwyddo dealltwriaeth a phryd mae’n briodol rhannu gwybodaeth
  12. y rheoliadau a’r ystyriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch ar gyfer y defnydd o ddeunyddiau, prosesau, technoleg a’r lleoliadau sydd ynghlwm
  13. sut i gynnal asesiadau risg o ddelweddau wedi’u cynllunio ar gyfer staff a’r gynulleidfa
  14. pryd mae angen cymorth arbenigol a sut i fanteisio arno
  15. arddull, ansawdd a nodweddion llwyfannu nodweddiadol sy’n gysylltiedig gyda gwahanol fathau o gynyrchiadau
  16. pwy sydd angen cadarnhad am systemau a’r ffordd orau o ddarparu hyn
  17. nodweddion perfformio cyfarpar a pha rai sydd â’r dichonoldeb mwyaf i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  18. sut i gadw cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL8

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwyliwr bar, Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dehongli a chynllunio; delweddau; cynyrchiadau theatr a byw;