Cyflawni gwaith rigio a dad-rigio ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cydrannau ar gyfer rigio a dad-rigio. Mae hyn yn ymwneud â chadarnhau dealltwriaeth o ddyluniadau rigio a pharatoi, marcio a gosod gwaith rigio o gynlluniau’n ddiogel. Ar ddiwedd y cynhyrchiad, mae hefyd yn ymwneud â dad-rigio yn ddiogel.
Mae’r rigio a gyfeirir ato mewn cynyrchiadau theatr a byw yn wahanol ac ar wahân i rigio adloniant. Mewn cynyrchiadau theatr a byw mae rigio yn cyfeirio at osod cyfarpar cynhyrchu technegol, golygfeydd a gosod tâp masgio ar gyfarpar rigio neu osod elfennau golygfaol neu dechnegol ar gyfer cynhyrchiad.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â rigio a dad-rigio ar gyfer perfformiadau theatr a chynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio ardaloedd gwaith yn unol â’r cynlluniau rigio gan ddangos sensitifrwydd tuag at leoliadau a chontractwyr eraill
- marcio gwaith o gynlluniau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol a’r codau ymarfer rigio
- paratoi ardaloedd gwaith ar y ddaear ac ar uchder, mewn ffyrdd sy’n cyfrannu tuag at waith rigio a dad-rigio diogel ac effeithlon
- defnyddio cyfarpar mynediad a systemau diogelu rhag disgyn personol (PFPS) yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
- dilyn datganiadau ac amserlenni dulliau i ddiogelu chi’ch hun ac eraill
- paratoi a chydosod cyfarpar codi ac ategolion codi yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer a’r datganiadau dulliau
- defnyddio clymau a gwaith rhaff y cytunwyd arno
- gwirio nad yw systemau rigio yn achosi peryglon pan maen nhw’n cael eu defnyddio ar uchder
- rhoi gwybod i a gofyn am gyngor gan bobl awdurdodedig ynghylch gwyriadau oddi wrth ddyluniadau
- rigio crograffau eilaidd pan fo angen, yn unol â’r datganiadau dulliau
- dewis a defnyddio technegau i rigio pwyntiau gosod i strwythurau ategol
- dewis a defnyddio cyfarpar, ategolion a thechnegau codi i rigio a dad-rigio systemau yn unol â’r cynlluniau codi
- ymateb i broblemau sy’n codi yn ystod paratoi ar gyfer ac yn ystod gweithrediadau codi yn unol â’r gweithdrefnau cymeradwy, gan ofyn am gymorth a chyngor yn ôl yr angen
- cadarnhau bod pwyntiau rigio wedi’u tynnu ac nad oes unrhyw gyfarpar rhydd yn weddill ar uchder ar ôl dad-rigio
- storio cyfarpar ac ategolion codi yn unol â’r gweithdrefnau cymeradwy ar ôl eu defnyddio
- gadael y safle gwaith yn daclus ar ôl ei ddefnyddio
- cwblhau cofnodion gofynnol yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd gwiriadau cyn defnyddio
- sut i ddehongli cynlluniau rigio a datganiadau dulliau a gweithio gan gadw at eu paramedrau
- y clymau a’r gwaith rhaff safonol a ddefnyddir wrth rigio a pha glymau i’w defnyddio gyda gwahanol systemau
- y dulliau terfynu a phwysigrwydd defnyddio’r dulliau cywir o wneud terfyniadau mewn rhaffau gwifren
- yr ystod o gyfarpar ac ategolion rigio a chodi a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer rigio, eu manteision, anfanteision, anghysondebau a sut maen nhw’n cael eu camddefnyddio
- sut mae ategolion rigio yn cael eu defnyddio i atodi neu i grogi llwythi ac i bennu tyndra’r sling
- sut i bennu pwysau a dosbarthiad llwythi arfaethedig o gynlluniau gan ddefnyddio byrddau llwythi a deall amodau llwytho
- terfynau llwythi gweithio deunyddiau rigio a’u cydnawsedd
- pam ddylid darparu gwybodaeth pwysau cywir i leoliadau a’r bobl sy’n gyfrifol am greu atodiadau rigio
- sut i bennu capasiti llwythi pwyntiau rigio neu ategol mewn perthynas â’u llwyth arfaethedig
- sut i adnabod capasiti llwythi cyfarpar codi a sut mae’n newid gyda’i gyfluniad
- sut gellir defnyddio cymalau strwythurol mewn lleoliadau
- sut i ddehongli a dilyn asesiadau risg
- sut mae gwres yn effeithio ar wahanol ddeunyddiau rigio
- sut i sefydlu a defnyddio teclynnau codi cadwyn, trin a rheoli cadwyni, diogelwch bag cadwyni, rheolwyr teclynnau codi cadwyni a’u cyflenwad pŵer a dosbarthiad
- dosbarthiad llwythi a’i effaith ar strwythurau wrth weithredu teclynnau codi’r un pryd
- pryd y mae crograffau yn a ddim yn angenrheidiol a’r ymarfer gorau ar gyfer eu rigio
- pam mae’n bwysig peidio â gwyro o’r cynllun rigio heb awdurdodiad
- yr ymarfer gorau ar gyfer crogi gyda chrograffau gwifren, dolennau, crograffau crwn, crograffau cadwyn cydio, basged agored, basged hollt, bachiadau crog ac mewn rhaffau angori
- sut i weithio gyda strwythurau modwlar gan gynnwys craffrwymau a systemau grid
- y problemau a allai godi a sut i fynd i’r afael â nhw
- pam mae’n bwysig llofnodi bod gwaith wedi’i orffen yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer