Gweithredu delweddau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL28
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu delweddau yn ystod cynyrchiadau byw fel eu bod yn bodloni gofynion y cynhyrchiad. Gallai’r delweddau olygu, ond heb eu cyfyngu i, tafluniadau, hologramau a fideos.  Mae’n ymdrin â’ch gallu i gyflawni gwiriadau cyn y perfformiad, gweithredu delweddau a chyflawni gwiriadau ar ôl y perfformiad.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithredu delweddau yn ystod cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio a chadarnhau bod yr holl gyfarpar ar gyfer y perfformiad mewn lle ac yn gweithio’n ddiogel
  2. cyflawni atgyweiriadau ac amnewid nwyddau traul yn dilyn y gweithdrefnau a’r amserlen gymeradwy
  3. cadarnhau bod y cyfarpar yn barod gyda’r bobl berthnasol
  4. pweru’r cyfarpar yn y drefn gywir ac mewn da bryd ar gyfer y perfformiad
  5. cynnig cysondeb drwy gydol y perfformiad a gyda pherfformiadau cynharach
  6. gweithredu delweddau yn unol â’r goleunodau a’r plot mewn ffordd sy’n ategu’r perfformiad artistig
  7. mynd i’r afael â phroblemau yn ystod y perfformiad gan ddefnyddio gweithdrefnau wrth gefn pan fo’n bosibl
  8. nodi problemau ac awgrymu sut y gellir osgoi’r rhain mewn perfformiadau yn y dyfodol  
  9. cyflawni’r holl weithrediadau heb darfu ar y perfformiad
  10. anwybyddu goleunodau pan rydych yn ystyried bod gofyn i chi wneud hynny yn y sefyllfa dan sylw
  11. diffodd pŵer yr holl gyfarpar yn y drefn gywir
  12. sicrhau bod y cyfarpar a’r nwyddau traul yn ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. adnabod unrhyw gyfarpar sy’n anniogel neu sydd ddim yn gweithio’n gywir a dilyn y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer labelu, amnewid ac atgyweirio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd gwiriadau cyn y perfformiad
  2. sut i wirio cyfarpar ar gyfer delweddau i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel
  3. sut i gyflawni atgyweiriadau ac amnewid nwyddau traul yn ddiogel a dilyn y gweithdrefnau cymeradwy
  4. sut i anodi a dilyn sgript neu sgôr gan gynnwys llinellau goleunodau a goleunodau gweledol
  5. ystyr termau cyffredin a ddefnyddir ar gyfer goleunodau gan gynnwys goleunodau ‘Standing By’ a ‘Go’
  6. y derminoleg sy’n berthnasol i safleoedd llwyfan gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  7. pwysigrwydd pweru’r cyfarpar yn y drefn gywir a sut i wneud hynny
  8. safonau’r diwydiant sy’n ymwneud â holl agweddau o weithio gyda thrydan a chyfarpar trydanol
  9. sut i weithredu gwahanol fathau o gonsolau i gynhyrchu gwahanol fathau o effaith
  10. sut gallai dyluniadau, lleoliadau a gweithgarwch goleuo effeithio ar ddelweddau
  11. y gwahaniaeth rhwng gweithredu cyfarpar yn ystod ymarferion a gweithredu cyfarpar yn ystod perfformiad
  12. pwysigrwydd gweithredu cyfarpar mewn ffordd sy’n ategu’r perfformiad artistig a sut i wneud hynny
  13. pwysigrwydd cysondeb gyda pherfformiadau cynharach a sut i gyflawni hyn
  14. y namau a’r problemau a allai godi yn ystod perfformiad a sut i fynd i’r afael â’r rhain gan darfu cyn lleied â phosibl ar y perfformiad
  15. pwysigrwydd nodi problemau a sut i osgoi’r rhain mewn perfformiadau yn y dyfodol
  16. y gweithdrefnau mewn argyfwng, yn enwedig ar gyfer pŵer yn diffodd neu danau
  17. y sefyllfaoedd lle dylid anwybyddu goleunodau
  18. y gweithdrefnau cywir ar gyfer diffodd pŵer, gan ystyried anghenion cwmnïau teithiol
  19. pwysigrwydd sicrhau bod yr holl gyfarpar a’r nwyddau traul yn ddiogel a sut i wneud hynny

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL49

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweithredu delweddau; delweddau; cynyrchiadau theatr a byw;