Gweithredu cyfarpar trydanol ac effeithiau llwyfan ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu neu gychwyn cyfarpar effeithiau i’w paratoi yn ystod cynhyrchiad byw, a chynnal gwiriadau ar ôl y perfformiad. Ymhlith yr effeithiau posibl mae’r defnydd o fwg, conffeti, niwl, fflachiadau a phyrotechneg llwyfan, a gellir eu gweithredu gan unrhyw aelod o’r cast.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â gweithredu effeithiau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithredu effeithiau yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- gweithredu effeithiau yn ôl y goleunodau a’r plot ac mewn ffordd sy’n ategu’r perfformiad artistig
- cyflawni gweithrediadau heb amharu ar y perfformiad
- sicrhau bod yr effeithiau arbennig yn darparu cysondeb drwy gydol y perfformiadau a gyda pherfformiadau cynharach
- mynd i’r afael â phroblemau yn ystod y perfformiad fel nad yw’n tarfu ar y perfformiad, gan ddefnyddio gweithdrefnau wrth gefn pan fo’n bosibl
- anwybyddu goleunodau pan rydych yn ystyried bod angen gwneud hynny yn y sefyllfa dan sylw
- cofnodi problemau ar ffurfiau priodol
- gwneud awgrymiadau o ran sut gellir osgoi problemau mewn perfformiadau yn y dyfodol i’r bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ynghylch y deunyddiau a’r cyfarpar effeithiau, gan gynnwys eu defnyddio, eu trin, eu storio a’u gwaredu
- sut i anodi a dilyn sgript neu sgôr gan gynnwys llinellau goleunodau a goleunodau gweledol.
- ystyr termau cyffredin a ddefnyddir ar gyfer goleunodau gan gynnwys goleunodau ‘Standing By’ a ‘Go’
- y derminoleg sy’n berthnasol i safleoedd llwyfan gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
- pwysigrwydd gweithredu cyfarpar mewn ffordd sy’n ategu’r perfformiad artistig a sut i wneud hynny
- pwysigrwydd cysondeb gydag effeithiau a sut i’w gyflawni
- pwysigrwydd ymateb yn brydlon i addasiadau y gofynnwyd amdanyn nhw a’u cofnodi ar gofnodion plot presennol
- y gweithdrefnau diogelwch a’r gweithdrefnau wrth gefn y cytunwyd arnyn nhw er mwyn gweithredu effeithiau
- y problemau a allai godi yn ystod perfformiad a sut i fynd i’r afael â nhw gan amharu cyn lleied â phosibl ar y perfformiad
- y sefyllfaoedd lle byddwch yn anwybyddu goleunodau
- y problemau sy’n debygol o godi gyda chyflawni’r plot, pwy ddylech chi gysylltu gyda nhw ynghylch y rhain a’r mathau o ddatrysiadau
- pwysigrwydd nodi problemau sydd wedi codi ac o ganfod ffyrdd o osgoi’r rhain mewn perfformiadau yn y dyfodol
- y gweithdrefnau mewn argyfwng, yn enwedig ar gyfer y pŵer yn diffodd neu danau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL48
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gweithredu; cyfarpar trydan llwyfan; effeithiau; cynyrchiadau theatr a byw;