Gweithredu’r bwrdd goleuo ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL25
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu’r bwrdd goleuo fel ei fod yn bodloni gofynion y cynyrchiadau. Mae’n ymdrin â’ch gallu i gynnal gwiriadau cyn y perfformiad, gweithredu’r ddesg goleuo a chynnal gwiriadau ar ôl y perfformiad. 

Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr Goleuo neu’r rheiny sy’n gweithredu’r bwrdd goleuo ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio bod y rig a’r cyfarpar goleuo mewn lle ac yn gweithio’n ddiogel
  2. gwirio bod yr adnoddau dwyn i ffocws a’r plotiau yn bodloni gofynion y perfformiad
  3. gwirio bod y sianeli a’r gosodiadau consol goleuadau wedi’u gosod a’u cydbwyso yn unol â’r gofynion
  4. cadarnhau bod y cyfarpar yn barod gyda’r bobl berthnasol
  5. pweru cyfarpar yn y drefn benodol ac mewn da bryd ar gyfer perfformiadau
  6. darparu cyflyrau goleuo mewn ffordd gyson ar gyfer yr holl berfformiadau yn unol â’r goleunod a’r plot
  7. gweithredu consolau o fewn uchafswm niferoedd sianeli, ac yn unol â safonau’r diwydiant
  8. mynd i’r afael â phroblemau yn ystod y perfformiad heb darfu gan ddefnyddio gweithdrefnau wrth gefn pan fo’n bosibl
  9. adrodd am broblemau a chynnig awgrymiadau i osgoi’r rhain mewn perfformiadau yn y dyfodol
  10. diffodd pŵer yr holl gyfarpar yn y drefn benodol  
  11. sicrhau bod yr holl gyfarpar a’r nwyddau traul yn ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
  12. dilyn y gweithdrefnau a’r amserlen gymeradwy ar gyfer labelu, amnewid ac atgyweirio’r cyfarpar a’r nwyddau traul
  13. cofnodi manylion am broblemau a chamau gweithredu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd gwiriadau cyn y perfformiad
  2. sut i wirio’r cyfarpar goleuo i sicrhau ei fod yn gweithio’n ddiogel
  3. sut i gyflawni atgyweiriadau ac amnewid nwyddau traul yn ddiogel ac yn unol â’r gweithdrefnau cymeradwy gan gynnwys lliwiau a lampau
  4. sut i wirio bod y prosesau dwyn i ffocws a’r plotiau’n gywir ar gyfer perfformiad
  5. pwysigrwydd pweru yn y drefn gywir a sut i wneud hynny
  6. y ddeddfwriaeth a safonau’r diwydiant sy’n ymwneud â holl agweddau o weithio gyda thrydan a chyfarpar trydanol
  7. gweithrediadau gwahanol fathau o gonsolau i gynhyrchu gwahanol fathau o effaith
  8. sut i ddehongli ffyrdd y gall cydbwysedd goleuadau newid yn anymwthiol mewn cytgord â symudiad artistiaid  
  9. effeithiau a defnydd diogel o oleuadau strôb
  10. sut i anodi a dilyn sgript neu sgôr gan gynnwys llinellau goleunodau a goleunodau gweledol
  11. ystyr termau cyffredin a ddefnyddir gan eraill sy’n cynnig goleunodau gan gynnwys y goleunodau ‘Standing By’ a ‘Go’
  12. y derminoleg sy’n berthnasol i safleoedd llwyfan gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  13. y gwahaniaeth rhwng gweithredu cyfarpar yn ystod yr ymarfer a gweithredu cyfarpar yn ystod y perfformiad
  14. pwysigrwydd gweithredu cyfarpar i ategu’r perfformiad artistig a sut i wneud hynny
  15. y gofynion iechyd a diogelwch, a sut maen nhw’n effeithio ar arferion rhaglennu, gweithredu a gweithio'r gwahanol fathau o gonsolau
  16. pwysigrwydd cysondeb a sut i’w gyflawni
  17. y namau a’r problemau a allai godi yn ystod y perfformiad a sut i ymdrin â’r rhain gan darfu cyn lleied â phosibl
  18. pwysigrwydd nodi problemau sydd wedi digwydd ac o ganfod ffyrdd o osgoi’r rhain mewn perfformiadau yn y dyfodol
  19. y gweithdrefnau mewn argyfwng, gan gynnwys y rheiny pan fo’r pŵer yn diffodd a thanau
  20. y gweithdrefnau ar gyfer diffodd pŵer cyfarpar
  21. pwysigrwydd sicrhau bod yr holl gyfarpar a’r nwyddau traul yn ddiogel a sut i wneud hynny
  22. sut i gadw cofnodion am broblemau a chamau gweithredu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL46

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Goleuo

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweithredu; goleuo; cynyrchiadau theatr a byw;