Rhaglennu a gweithredu peiriannau awtomeiddio a llwyfan ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rhaglennu a gweithredu systemau awtomeiddio a pheiriannau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw. Mae hyn yn golygu dehongli a gweithredu’r cyfeiriad digidol neu ofynion y cynhyrchiad, drwy raglennu a defnyddio desgiau rheoli; neu weithredu peiriannau llwyfan megis lifftiau neu drofyrddau mewn lleoliad. Gall hyn gynnwys rhaglennu goleunodau a chyflyrau ar gyfer systemau awtomeiddio, gan gyd-fynd â gofynion y cynhyrchiad neu’r lleoliad. 

Bydd hyn hefyd yn ymwneud â gweithredu systemau awtomeiddio yn ddiogel ac yn fanwl gywir yn ystod ymarferion a pherfformiadau byw. 

At hyn, bydd yn ymwneud â defnyddio protocolau cyfathrebu eglur yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu, gan gynnwys paratoi, ymarfer a pherfformiad byw. 

Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr Awtomeiddio a thechnegwyr awtomeiddio Golygfaol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu gwybodaeth gan y timau creadigol a thechnegol ynghylch gofynion y cynhyrchiad
  2. gwrio bod cydrannau’r peiriannau awtomeiddio a llwyfan yn ddiogel ac yn y drefn gywir ar gyfer y perfformiad
  3. gwirio cyflwr cydrannau’r peiriannau awtomeiddio a llwyfan a chyflawni mân atgyweiriadau i safon y cytunwyd arni
  4. gwirio bod y cyfarpar cyfathrebu, y cyfarpar mecanyddol a’r systemau goleunodau’n gweithio yn ôl yr angen
  5. gweithredu peiriannau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  6. rhaglennu’r goleunodau a’r cyflyrau yn unol â’r gofynion diogelwch a galluoedd y system
  7. gweithredu desgiau a systemau rheoli yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  8. gwirio ac addasu rhaglennu er mwyn sicrhau eu bod yn ddibynadwy ac yn cyd-fynd â’r nodau creadigol
  9. dogfennu deilliannau rhaglennu at ddefnydd gweithredol
  10. monitro perfformiad y system ac ymateb yn brydlon i broblemau
  11. nodi unrhyw anghysondebau neu broblemau a mynd i’r afael â’r rhain yn unol â’r gweithdrefnau, gan adrodd am unrhyw rai na ellir eu datrys i’r person cyfrifol
  12. ynysu cyfarpar pan fo angen
  13. cyflawni gwaith canfod namau mewn cydrannau a systemau
  14. nodi, cofnodi ac adrodd am ddiffygion yn y perfformiad
  15. cynnal gwiriadau ôl-stopio yn unol â chyfarwyddiadau gweithredu’r gwneuthurwyr   
  16. gadael systemau awtomeiddio a pheiriannau llwyfan yn ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pensaernïaeth, swyddogaethau a chyfyngiadau’r systemau
  2. sut i ddarllen a dehongli darluniau technegol i weithredu’r system awtomeiddio
  3. y ddamcaniaeth drydanol a sut i’w roi ar waith gyda’r systemau a ddefnyddir
  4. y ddamcaniaeth fecanyddol a sut i’w roi ar waith gyda’r systemau a ddefnyddir
  5. y cyfarpar awtomeiddio, y cyfarpar rigio neu’r cydrannau i’w dewis, yn seiliedig ar ofynion technegol
  6. y protocolau gweithredol ar gyfer systemau awtomeiddio amrywiol
  7. y gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer rhaglennu awtomeiddio
  8. egwyddorion rhaglennu a chysoni symudiadau
  9. y system(au) awtomeiddio a ddefnyddir gan y sefydliad a sut i’w raglennu neu eu rhaglennu
  10. protocolau diogelwch a chyfathrebu’r sefydliad ar gyfer gweithredu peiriannau awtomeiddio a llwyfan
  11. gweithrediad peiriannau yn y cyd-destun y mae i’w ddefnyddio yn ystod y cynhyrchiad
  12. y gweithdrefnau cyfathrebu ar gyfer amgylcheddau byw
  13. pwysigrwydd meddu ar gyfarpar cyfathrebu a mecanyddol a systemau goleunodau sy’n gweithio
  14. y problemau a allai godi wrth ddefnyddio awtomeiddio a sut i fynd i’r afael â nhw
  15. y prosesau a’r gweithdrefnau canfod namau
  16. y system goleunodau a sut i ymateb i’r rhain
  17. y drefn gynnal ar gyfer y perfformiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSTTL24

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd awtomeiddio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rhaglennu; gweithredu; awtomeiddio; peiriannau llwyfan, cynyrchiadau theatr a byw;