Gweithredu systemau codi a gostwng ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer codi a gostwng drwy wneud gosodiadau terfynol i unrhyw gyfarpar yn yr ardal berfformio. Mae gofyn i chi weithredu cyfarpar codi a gostwng ar gyfer golygfeydd neu agweddau eraill y cynhyrchiad, i drefnu goleunodau yn ystod perfformiad byw, gan gynnwys cynnal gwiriadau cyn ac ar ôl y sioe.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â gweithredu systemau codi a gostwng yn ystod cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio a chadarnhau bod y cyfarpar a’r nwyddau traul ar gael i fodloni’r gofynion codi a gostwng
- gwirio bod y cydrannau codi a gostwng yn ddiogel ac yn y drefn gywir ar gyfer y perfformiad
- gwirio cyflwr y cydrannau codi a gostwng a chyflawni mân atgyweiriadau i safon y cytunwyd arni
- gwirio bod y cyfarpar cyfathrebu, y cyfarpar mecanyddol a’r systemau goleunodau’n gweithio’n ôl yr angen
- nodi unrhyw afreoleidd-dra neu broblemau a mynd i’r afael â’r rhain yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer, gan adrodd am unrhyw rai na ellir eu datrys i’r person cyfrifol
- gwirio a chadarnhau bod yr holl gyfarpar a’r cydrannau codi a gostwng yn bodloni’r gofynion diogelwch ar gyfer y perfformiad
- ymateb i’r cyfarwyddyd ‘standby’ yn ddi-oed
- cyflawni gweithdrefnau cychwyn a stopio yn unol â’r cyfarwyddiadau rheoli diogel a chyfarwyddiadau gweithredu’r gwneuthurwyr
- cynnal a gweithredu systemau a chyfarpar codi a gostwng mewn trefn i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- cyflawni gweithrediadau yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- cyflawni safleoedd terfynol penodedig
- gwneud diwygiadau i daflenni plot a chyfathrebu gyda’r person cyfrifol
- nodi, cofnodi ac adrodd am ddiffygion yn y perfformiad
- cyflawni gwiriadau ar ôl stopio yn unol â chyfarwyddiadau gweithredu’r gwneuthurwyr
- gadael systemau a chyfarpar codi a gostwng pŵer awtomataidd yn ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfarpar a’r nwyddau traul sydd eu hangen arnoch er mwyn gallu cynnal system codi a gostwng a sut i’w gwirio
- sut i wirio cyflwr y cydrannau a’r cyfarpar codi a gostwng a sut i adrodd am namau a difrod
- pwysigrwydd sicrhau bod systemau cyfathrebu, cyfarpar mecanyddol a systemau goleunodau ar waith
- y namau neu broblemau a allai godi a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- y gweithdrefnau cyn-weithredol er enghraifft cysylltu cyfarpar, mewngofnodi, cyflwyno a diwygio data, modd ffon reoli a chyflymder
- yr egwyddorion a defnydd y system rheoli codi a gostwng a’r cyfarpar cysylltiedig
- y gweithdrefnau cychwyn ar gyfer y system rheoli a’r cyfarpar
- y mathau o ddiffygion perfformiad sy’n gysylltiedig â’r system rheoli a’r cyfarpar
- y mathau o opsiynau chwarae yng nghyd-destun y gweithgarwch gwaith
- y gweithdrefnau diffodd ar gyfer y system a’r cyfarpar codi a gostwng
- y gweithdrefnau gwirio ar ôl stopio
- y mathau o ddifrod a’r anghenion amnewid
- pwysigrwydd ymateb yn brydlon i’r cyfarwyddyd ‘standby’ a sut i wneud hynny
- y system goleunodau a sut i ymateb i’r rhain
- y gwahaniaeth rhwng amodau sioe ac amodau allanol
- y drefn gynnal ar gyfer y perfformiad
- sut i ddarllen a diwygio taflenni plot
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda’r person cyfrifol am ddiwygiadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL44
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gweithredu codi a gostwng; codi a gostwng; cydrannau codi a gostwng; cynyrchiadau theatr a byw;