Gwneud newidiadau gofynnol yn dilyn yr ymarfer technegol ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud y newidiadau a nodwyd yn ystod ymarferion agweddau technegol perfformiad. Bydd angen i chi oruchwylio’r cyfnod ymarfer ac yna’r ymarferion technegol a’r ymarferion gwisg, gan lunio adroddiadau eglur ac adeiladol a chydweithio gydag eraill i nodi a chanfod datrysiadau arloesol, ymarferol neu dechnegol i unrhyw welliannau sydd eu hangen.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am wneud newidiadau i agweddau technegol cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- mynychu ymarferion llwyfan technegol ac ymarferion gwisg pan fo angen
- monitro’r cyfraniadau technegol i wirio eu bod yn bodloni anghenion y cynhyrchiad gan gynnwys amserlenni technegol yn ystod yr ymarfer technegol
- ymgynghori gyda’r staff creadigol a thechnegol perthnasol i gytuno ar newidiadau i’r cynlluniau a’r plotiau cyfarpar
- awgrymu addasiadau i adrannau technegol yn ôl yr angen
- cynllunio ar gyfer gweithdrefnau wrth gefn i fynd i’r afael â chyfarpar yn methu mewn perfformiadau
- gwneud addasiadau y cytunwyd arnyn nhw i’r plotiau, y cynlluniau cyfarpar a’r rhestrau goleunodau presennol
- darparu’r diweddaraf am newidiadau sydd wedi’u rhoi ar waith i’r tîm rheoli llwyfan
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaeth rhwng ymarferion, ymarferion technegol, ymarferion gwisg a rhagolygon
- ble i gaffael gwybodaeth ar ofynion technegol cynyrchiadau gan gynnwys amserlenni
- rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol adrannau technegol
- pwysigrwydd ymgynghori gyda’r staff creadigol a thechnegol eraill yn ystod ymarferion
- problemau a allai godi yn ystod cyfnodau cynhyrchu a’r camau unioni y gellir eu gweithredu
- yr ystod o broblemau a gwelliannau posibl y gellir eu nodi yn ystod ymarferion
- y gweithdrefnau wrth gefn y cytunwyd arnyn nhw a sut i’w gweithredu
- pwysigrwydd darparu deunydd ymarfer a phryd mae’n briodol gwneud hynny
- y derminoleg llwyfan a’i hystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
- pwysigrwydd diweddaru’r tîm rheoli llwyfan o’r newidiadau sydd wedi’u gwneud
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL41
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Goleuo, Technegydd Clyweledol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwneud newidiadau; ymarfer technegol; ymarfer; cynyrchiadau theatr a byw;