Gwirio a chadarnhau bod delweddau’n bodloni’r gofynion yn ystod ymarferion ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio’r cyfnod ymarfer i sicrhau y bydd y delweddau a ddefnyddir mewn cynyrchiadau byw yn cyflawni’r effaith a ddymunir. Gallai delweddau olygu, ond heb eu cyfyngu i, tafluniadau, hologramau a fideos. Bydd angen i chi fireinio dyluniadau fel sy’n briodol a chanfod datrysiadau ymarferol neu dechnegol i broblemau cyn noson y wasg a’r noson agoriadol. 

Bydd gofyn i chi lunio plotiau manwl o agweddau gweledol cynyrchiadau a’u diweddaru yn ystod ymarferion. Mae’n rhaid i chi nodi ble bydd problemau’n codi, a gwneud argymhellion am newidiadau ac ymateb yn gadarnhaol i argymhellion am newidiadau er mwyn bodloni’r gofynion dylunio.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â sicrhau bod delweddau’n bodloni gofynion yn ystod ymarferion ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. mynychu ymarferion llwyfan technegol ac ymarferion gwisg pan fo angen
  2. gwirio a chadarnhau bod dyluniadau gweledol yn parhau i fodloni gofynion y cynhyrchiad pan fo nhw wedi’u cyfuno gydag agweddau eraill cynyrchiadau
  3. cyflawni addasiadau y gofynnwyd amdanyn nhw i oleunodau
  4. awgrymu datrysiadau i broblemau o ran cyflawni delweddau a ddymunir sy’n hyfyw ac yn cyd-fynd gyda’r bwriadau dylunio
  5. adrodd am broblemau gyda chyflawni’r delweddau a ddymunir i’r bobl berthnasol
  6. cynllunio ar gyfer gweithdrefnau wrth gefn i fynd i’r afael â chyfarpar yn methu yn ystod perfformiadau
  7. ymgynghori gyda’r staff creadigol a thechnegol perthnasol i gytuno ar newidiadau i gynlluniau a phlotiau cyfarpar
  8. gwneud addasiadau y cytunwyd arnyn nhw i’r plotiau, y cynlluniau cyfarpar a’r rhestrau goleunodau presennol sy’n cynnal uniondeb cyffredinol dyluniadau
  9. cofnodi gwybodaeth ar gyfer delweddau
  10. cadarnhau bod y rheolwyr llwyfan yn meddu ar y plotiau cywir gyda safleoedd goleunodau wedi’u hymgorffori yn rhestrau cynnal y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahaniaeth rhwng ymarferion, ymarferion technegol, ymarferion gwisg a rhagolygon a rôl y dylunydd a’r gweithredwr ynghlwm â’r rhain
  2. pwysigrwydd y cyfnod ymarfer o ran profi a yw goleunodau penodol yn gweithio, gan nodi lleoliadau ar y llwyfan ble byddai effeithiau ar waith, ac a oes angen ychwanegu goleunodau newydd
  3. y derminoleg llwyfan a’i hystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  4. yr ystod o broblemau a gwelliannau posibl y gellir eu nodi yn ystod ymarferion
  5. trefniadaeth y safle rheoli delweddau a galluoedd a gweithrediad y cyfarpar, gan gynnwys canfod namau a chynnal a chadw llinell gyntaf
  6. y gweithdrefnau wrth gefn y cytunwyd arnyn nhw a sut i’w gweithredu
  7. pwysigrwydd cynnal uniondeb cyffredinol dyluniadau
  8. pwysigrwydd darparu deunydd ymarfer a phryd i wneud hynny
  9. pwysigrwydd cyfathrebu’n gynnar am safleoedd taflunyddion ac arbrofi gyda’r rhain mewn ymarferion
  10. sut mae dyluniadau, lleoliadau a gweithgarwch goleuo yn gallu effeithio ar ddelweddau
  11. pwysigrwydd cynllunio, addasu goleunodau a dogfennu addasiadau i blotiau
  12. pwysigrwydd sicrhau bod y rheolwyr llwyfan yn meddu ar restr gyfredol o oleunodau gan gynnwys pwyntiau goleunodau mewn sgriptiau fel y rhagwelir ar unrhyw adeg
  13. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r staff creadigol a thechnegol eraill yn ystod ymarferion
  14. pwysigrwydd archifo plotiau i’w defnyddio yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL39

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ymarfer; delweddau; cynyrchiadau theatr a byw;