Dehongli a chynllunio effeithiau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli briff a chynllunio effeithiau a nodi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer cynyrchiadau byw. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer a chysylltu gyda’r perfformwyr a’r tîm technegol i wirio a chadarnhau eu bod yn gwybod beth sydd wedi’i gynllunio a’u rôl a’u cyfrifoldebau.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chynllunio effeithiau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r gofynion effeithiau o’r briff gan gynnwys darluniau a gwybodaeth arall y cynhyrchiad
- defnyddio gwybodaeth i ymchwilio nodweddion ffisegol effeithiau
- nodi effeithiau a ganiateir yn y lleoliadau ar gyfer cynyrchiadau
- asesu gofod lleoliadau ar gyfer cynllunio a gweithredu effeithiau
- gwirio a chadarnhau bod trwyddedau, yswiriant, caniatâd a chyfleusterau ar gyfer prynu a chludo, storio a defnyddio deunyddiau peryglus yn ddiogel ar waith
- cyfarwyddo aelodau o’r timau technegol a’r perfformwyr ar sut, pryd a pham y bydd effeithiau arbennig yn cael eu defnyddio yn ystod cynyrchiadau
- darparu gwybodaeth am y gweithdrefnau ar gyfer gweithredu effeithiau a’r rhagofalon y mae angen eu cymryd i’r rheiny a fydd yn eu gweithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i gaffael gwybodaeth am nodweddion ffisegol yr effeithiau
- sut i ganfod beth sy’n cael ei ganiatáu mewn gwahanol leoliadau
- nodweddion ffisegol effeithiau a sut mae’r rhain yn cael eu rheoli yn y theatr o ran alldafliad, lliw, ongl, dwyster (gwres neu sain), lledaeniad, a symudiad
- sut mae modd i effeithiau fodloni gofynion y cynhyrchiad
- y rheoliadau, y trwyddedau a’r yswiriant sy’n ymdrin â phrynu, cludo, storio a defnyddio deunyddiau peryglus
- y peryglon sy’n gysylltiedig â chynhyrchu effeithiau a sut mae modd eu lleihau
- pwysigrwydd cyfarwyddo aelodau o’r tîm technegol a’r perfformwyr am ddiben a defnydd effeithiau
- y derminoleg llwyfan a’i hystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
- sut i addasu cynlluniau i weithio o fewn cyfyngiadau gwahanol leoliadau
- y mathau o ddarluniau a ddefnyddiwyd, sut maen nhw’n cydgysylltu a sut i echdynnu gwybodaeth ddimensiynol neu ystadegol ohonyn nhw
- y symbolau, y derminoleg a’r arferion a ddefnyddir ar gyfer darluniau a manylebau trydanol, mecanyddol neu electronig
- pryd i rannu gwybodaeth gydag eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL7
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
dehongli a chynllunio; effeithiau; cynyrchiadau theatr a byw;