Gwirio a chadarnhau bod y sain yn bodloni’r gofynion yn ystod ymarferion ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL19
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio’r cyfnod ymarfer i sicrhau bod y dyluniad sain sydd ar waith yn cyflawni’r effaith a ddymunir. Bydd angen i chi ei fireinio fel sy’n briodol a chanfod datrysiadau ymarferol neu dechnegol i broblemau cyn noson y wasg a’r noson agoriadol.

Bydd gofyn i chi lunio cynlluniau manwl a chywir o agweddau sain y cynhyrchiad a’u diweddaru yn ystod ymarferion. Mae’n rhaid i chi nodi pan fo problemau’n codi, a chynnig ac ymateb yn gadarnhaol i argymhellion i newidiadau sydd angen eu cyflawni i fodloni’r gofynion dylunio.

Mae’r safon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â sicrhau bod y sain yn bodloni’r gofynion yn ystod ymarferion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. mynychu ymarferion llwyfan technegol ac ymarferion gwisg pan fo angen
  2. gwirio a chadarnhau bod y dyluniad sain a ddarperir yn bodloni anghenion y cynhyrchiad pan fydd wedi’i gyfuno gydag agweddau eraill y cynhyrchiad
  3. cysylltu gyda’r adran wisgoedd, a’r staff wigiau, gwallt a cholur a’r perfformwyr i bennu safleoedd ar gyfer cyfarpar diwifr personol
  4. sicrhau bod yr addasiadau y gofynnwyd amdanyn nhw i oleunodau sain neu lefelau meicroffon yn cael eu cyflawni’n brydlon
  5. awgrymu datrysiadau i broblemau gyda chyflawni dyluniadau sain sy’n hyfyw ac yn cyd-fynd gyda gofynion y cynhyrchiad
  6. adrodd am broblemau gyda gweithredu dyluniadau sain i’r bobl berthnasol
  7. cynllunio ar gyfer gweithdrefnau wrth gefn i fynd i’r afael gyda chyfarpar yn methu mewn perfformiadau fel y gellir parhau i fodloni gofynion y plot sain
  8. ymgynghori gyda staff creadigol a thechnegol i gytuno ar newidiadau i’r cynlluniau cyfarpar a’r plotiau sain
  9. gwneud addasiadau y cytunwyd arnyn nhw i’r plotiau sain, y cynlluniau cyfarpar a’r rhestrau goleunodau presennol sy’n cynnal cywirdeb cyffredinol y dyluniad sain
  10. cadarnhau bod y rheolwyr llwyfan yn meddu ar y plotiau sain cywir gyda safleoedd goleunodau wedi’u hymgorffori yn rhestrau cynnal y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahaniaeth rhwng ymarferion, ymarferion technegol, ymarferion gwisg a rhagolygon a’r rôl y gallai’r dylunydd sain a’r technegydd sain ei chwarae ynghlwm â’r rhain
  2. pwysigrwydd y cyfnod ymarfer wrth wirio a yw goleunodau penodol yn gweithio
  3. sut i nodi lleoliadau ar y llwyfan o ran ble y bydd effeithiau ar waith, ac a oes angen ychwanegu goleunodau newydd
  4. y problemau a’r gwelliannau y gellir eu nodi yn ystod ymarferion
  5. y safle rheoli sain a galluoedd a gweithrediad cyfarpar sain, gan gynnwys canfod namau a chynnal a chadw llinell gyntaf
  6. y gweithdrefnau wrth gefn y cytunwyd arnyn nhw a sut i’w gweithredu
  7. pwysigrwydd cynnal uniondeb cyffredinol y dyluniad sain ar gyfer cynhyrchiad
  8. pwysigrwydd darparu deunydd ymarfer a phryd mae’n briodol gwneud hynny
  9. y derminoleg llwyfan a’i hystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  10. pwysigrwydd cyfathrebu’n gynnar am safleoedd meicroffonau radio ac arbrofi gyda’r rhain mewn ymarferion
  11. pwysigrwydd cynllunio, addasu goleunodau sain a dogfennu addasiadau i blotiau
  12. pwysigrwydd sicrhau bod y rheolwyr llwyfan yn meddu ar restr gyfredol o oleunodau sain gan gynnwys pwyntiau goleunodau mewn sgriptiau
  13. pwysigrwydd ymgynghori gyda staff creadigol a thechnegol eraill yn ystod ymarferion
  14. pwysigrwydd archifo plotiau i’w defnyddio yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL37

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol, Technegydd Sain, Gweithredwr Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ymarfer; sain; cynyrchiadau theatr a byw;