Cynllunio ac ymarfer goleuo ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydlynu gwaith ymarfer a chynllunio goleuo. Bydd gofyn i chi ddefnyddio’r cyfnod ymarfer, gan gynnwys y sesiwn ymarfer a chynllunio technegol, i bennu’n union sut bydd y goleuo’n cael ei ddefnyddio i gyflawni’r effeithiau a ddymunir yn ystod y perfformiad.
Bydd angen i chi gynllunio’r goleunodau a’r gweddau ar gyfer pob cyflwr golau mewn cytundeb â’r bobl berthnasol gan ddefnyddio crynodebau a rhestrau goleunodau.
Mae’n rhaid i chi ymateb i’r newidiadau sydd eu hangen yn ystod y cyfnod ymarfer a chanfod datrysiadau arloesol, ymarferol neu dechnegol i fodloni’r gofynion dylunio a chynhyrchu ar gyfer unrhyw broblemau sy’n codi, o fewn y briff dylunio y cytunwyd arno.
Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr Goleuo, dylunwyr Goleuo a Phenaethiaid Adran Goleuo ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu am amserlenni cyffredinol y cynhyrchiad gyda staff perthnasol y cynhyrchiad
- mynychu ymarferion llwyfan technegol ac ymarferion gwisg pan fo angen
- sicrhau bod yr effeithiau goleuo wedi’u cyfuno gydag agweddau eraill cynyrchiadau yn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- mynd i’r afael â phroblemau yn ôl y gweithdrefnau cymeradwy, gan awgrymu datrysiadau sy’n ymarferol ac sy’n cyd-fynd â’r bwriadau dylunio
- adrodd am broblemau nad oes modd eu datrys i’r bobl briodol
- ymgynghori gyda’r staff creadigol a thechnegol i ddiwygio cyflyrau goleuo
- cynhyrchu cyflyrau goleuo sy’n bodloni’r amgylchiadau dylunio a chynnal uniondeb cyffredinol y dyluniadau
- gwirio bod aelodau’r timau technegol wedi llunio rhestrau goleunodau gweithredol i gynnal trefn goleunod-i-oleunod cynyrchiadau
- gwirio bod gan y rheolwyr llwyfan grynodeb goleunodau a safleoedd goleunodau cywir wedi’u hymgorffori yn nhrefn cynnal y cynyrchiadau
- defnyddio gwybodaeth i raglennu a chysylltu desgiau goleuo yn rhithiol yn barod ar gyfer cynllunio
- gwneud addasiadau gofynnol i wybodaeth goleuo, gwaith papur a goleunodau y mae desgiau goleuo yn meddu arni
- cofnodi gwaith papur a gwybodaeth goleunodau y mae desgiau goleuo yn meddu arnyn nhw er mwyn i bobl eraill allu eu dilyn
- cynllunio ac addasu cyflyrau goleuo, er mwyn iddyn nhw fodloni’r gofynion
- datblygu a dilyn trefniadau wrth gefn i fynd i’r afael â phroblemau yn ystod gweithredu ac ar gyfer gwybodaeth goleunodau y mae desgiau goleuo yn meddu arni
- chwarae cyflyrau goleuo i gyd-fynd â’r goleunod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaeth rhwng sesiynau cynllunio, ymarferion technegol, ymarferion gwisg a rhagolygon a’r rolau gallai dylunwyr goleuo a phennaeth yr adran oleuo eu chwarae ynghlwm â’r rhain
- y gwelliannau posibl y gellir eu nodi yn ystod ymarfer
- sut i weithio gyda’r timau technegol i ganfod datrysiadau i broblemau
- pwysigrwydd ymgynghori gydag aelodau eraill o’r timau creadigol a thechnegol
- pwysigrwydd cynnal uniondeb cyffredinol dyluniadau goleuo
- pwysigrwydd gwedd gyffredinol y cynhyrchiad a sut mae goleuo yn cyfrannu tuag at hyn
- galluoedd a gweithrediad desgiau goleuo, gan gynnwys canfod namau a chynnal a chadw llinell gyntaf
- y derminoleg llwyfan a’i hystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan chwith y llwyfan a de’r llwyfan
- sut i weithredu gosodiadau a’r cyfarpar goleuo, trydan y llwyfan ac effeithiau
- y problemau a allai godi a phwy i gysylltu gyda nhw i ddarparu datrysiadau
- pwysigrwydd cynllunio ac addasu cyflyrau goleuo i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- pam mae’n bwysig cyfathrebu gyda phobl eraill wrth gynllunio cyflyrau goleuo
- y lefel o gyflymder, medrusrwydd ac effeithlonrwydd sydd ei angen wrth gynllunio
- pwysigrwydd ymarferion a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ymarfer
- pwysigrwydd gwybodaeth ar-lein wrth gefn ynghlwm â’r ddesg oleuo ac archifo gwaith papur a gwybodaeth i’w defnyddio yn y dyfodol
- y gweithdrefnau wrth gefn y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer gwybodaeth sydd ynghlwm â’r bwrdd goleuo a sut i weithredu’r rhain
- pwysigrwydd ymateb yn brydlon i addasiadau y gofynnwyd amdanyn nhw
- sut i amnewid ffynonellau golau diffygiol, gan gynnwys sicrhau ynysu diogel
- pwysigrwydd cofnodi addasiadau ar restrau goleunodau
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer