Paratoi a gosod cyfarpar awtomeiddio a pheiriannau llwyfan ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod cyfarpar awtomeiddio arbenigol a pheiriannau llwyfan, gan gynnwys ysgogwyr trydanol a hydrolegol, winshis, teclynnau codi, lifftiau llwyfan, maglau, llwyfannau sy’n cylchdroi a rheolaethau cysylltiedig.
Bydd hyn yn golygu sicrhau bod y systemau awtomeiddio, gan gynnwys y systemau rheoli a mecanyddol, yn cydweithio’n effeithiol gyda’r system gyffredinol, a gwirio bod y rhain yn gweithredu’n unol â gofynion y cynhyrchiad a’r gofynion sefydliadol.
Bydd hyn hefyd yn golygu gweithio’n unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer a’r safonau diwydiant bob amser.
Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr Awtomeiddio a thechnegwyr awtomeiddio Golygfaol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli darluniau technegol i gynllunio gofynion sefydlu
- llunio rhestrau echelinau system a deall y terfynau gweithredol
- gwirio’r systemau a’r cydrannau awtomeiddio i sicrhau bod popeth ar gael i’w defnyddio
- cydosod cyfarpar awtomeiddio ar gyfer golygfeydd symudol, setiau neu berfformwyr yn unol â safonau’r diwydiant a gofynion y cynhyrchiad
- defnyddio technegau trin, codi a gostwng â llaw yn ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- nodi a mynd i’r afael â phroblemau wrth sefydlu systemau, cydrannau a pheiriannau awtomeiddio yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- gwirio cyfarpar awtomeiddio ar gyfer golygfeydd symudol, setiau neu berfformwyr yn unol â safonau’r diwydiant
- cyflawni a chofnodi profion dilysu y cytunwyd arnyn nhw gan ddilyn y protocolau diogelwch
- nodi a mynd i’r afael ag unrhyw anghysondebau yn ystod y prawf dilysu
- cadarnhau bod y peiriannau llwyfan neu set yn ddiogel ac yn cydymffurfio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion systemau awtomeiddio, gan gynnwys cydrannau rheoli a mecanyddol
- sut i ddarllen a dehongli darluniau technegol i osod y system(au) awtomeiddio
- sut i wirio bod yr holl gydrannau ar gael fel y cynlluniwyd
- y gweithdrefnau a’r technegau ar gyfer trin, codi a gostwng â llaw yn ddiogel
- pwy yw’r person sy’n gyfrifol am weithredu’r system awtomeiddio a’r peiriannau llwyfan a rhoi cyfarwyddiadau
- pam mae’n bwysig derbyn cyfarwyddiadau gan y person hwnnw’n unig
- y gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer gwirio a dilysu systemau
- y protocolau diogelwch i’w defnyddio yn ystod gwiriadau gweithredol
- y technegau dadansoddi methiannau a chynllunio wrth gefn
- protocol diogelwch a chyfathrebu’r sefydliad ar gyfer gweithredu systemau awtomeiddio
- y problemau a allai godi wrth weithio gyda systemau, cydrannau a pheiriannau awtomeiddio a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- sut i sicrhau bod y system yn gweithio heb draul ormodol
- pwysigrwydd cadw’r ardal waith yn ddiogel ac yn daclus a sut i wneud hynny
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer a safonau’r diwydiant ynghylch sefydlu a gosod systemau, cydrannau a pheiriannau awtomeiddio