Gosod system codi a gostwng a gosod cydrannau sy’n codi a gostwng ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod system codi a gostwng a gosod cydrannau sy’n codi a gostwng. Bydd angen i chi rigio systemau codi a gostwng sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol trwy leoli a gosod, gosod teclynnau codi a chydbwyso llwythi gyda gwrthbwysau.

Bydd angen i chi hefyd osod cydrannau codi a gostwng trwy eu trosglwyddo i’r ardal berfformio, codi, rheoli symudiad a marcio safleoedd mewn neu allan. 

Ar ddiwedd y cynhyrchiad, bydd gofyn i chi ddadosod y cydrannau codi a gostwng a pharatoi i adael y lleoliad.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gosod system codi a gostwng neu sy’n gosod cydrannau codi a gostwng ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio technegau trin, codi a gostwng yn ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  2. nodi a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau wrth weithio gyda chydrannau codi a gostwng yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  3. gwirio’r cydrannau sydd i’w codi a’u gostwng i sicrhau bod popeth ar gael yn unol â’r cynllun
  4. gwirio bod y llinellau codi a gostwng yn eu safleoedd gofynnol
  5. gwirio a chadarnhau bod y llwybrau wedi’u cynllunio’n glir ac yn dilyn y llwybr ble mae’r lleiaf o ffrithiant
  6. diogelu a gosod pwlïau mewn rhes i fodloni’r gofynion
  7. addasu llinellau i gynhyrchu’r symudiad gofynnol
  8. terfynu llinellau a diogelu cysylltiadau diogelu yn unol â’r polisi diogelwch
  9. gwirio bod systemau’n gweithio mewn ffordd rwydd, ar gyflymderau gofynnol a heb draul ormodol  
  10. gwirio bod arwyddion llwyth a marciau pwynt wedi’u graddio ar gyfer llwythi arfaethedig
  11. gosod teclynnau codi mewn rhes a’u diogelu fel eu bod yn ddiogel i’w defnyddio
  12. gwirio gweithrediad teclynnau codi cyn atodi llwythi
  13. gwirio bod y llwybrau teithio yn glir cyn codi a gostwng a’ch bod yn mynd i’r afael â’r rhannau llac yn unol â’r gofynion diogelwch gosod a gwirio cyn defnyddio  
  14. diogelu ffitiadau llwyth a phwysau cywir mewn crudiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ynghylch paratoi a gosod systemau codi a gostwng
  2. y problemau a allai godi wrth weithio gyda systemau codi a gostwng a sut i ymdrin â’r rhain
  3. y gweithdrefnau a’r technegau ar gyfer codi a chario a gostwng â llaw yn ddiogel
  4. y safleoedd gofynnol ar gyfer llinellau codi a gostwng a phwysigrwydd lleoli llinellau’n gywir
  5. beth allai ddigwydd os nad yw’r llwybrau’n glir ac yn dilyn y llwybr ble mae’r lleiaf o ffrithiant
  6. pam mae’n bwysig gosod y pwlïau mewn rhes ar ongl sgwâr i echel rhodell y pwli a sut i wneud hyn  
  7. sut i dynnu ac addasu llinellau a therfynu llinellau’n ddiogel
  8. sut i sicrhau bod y system yn gweithio heb wisgo gormodol
  9. pwy yw’r person sy’n gyfrifol am weithredu’r system codi a gostwng a pham mae’n bwysig cymryd cyfarwyddiadau gan y person hwnnw’n unig
  10. sut i gyfrifo llwyth a’r nifer o bwysau ar gyfer llwyth penodol
  11. sut i wirio capasiti llwyth strwythurau rhydd a strwythurau annatod
  12. sut i alinio’r teclyn codi fel y gellir ei ddefnyddio’n ddiogel a beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n gwneud hynny
  13. sut i wirio bod y teclyn codi’n gweithio’n gywir
  14. pam mae’n rhaid i lwybr teithio’r ddolen gadwyn fod yn glir a sut i wirio hyn
  15. sut i ddiogelu ffitiadau llwyth a phwysau cywir mewn crudiau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL32

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

paratoi; codi a gostwng; gosod; cydrannau codi a gostwng; cynyrchiadau theatr a byw;