Gosod cyfarpar diwifr i berfformwyr ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod cyfarpar diwifr i berfformwyr. Bydd angen i chi egluro a chytuno ar y gofynion ar gyfer cyfarpar diwifr a sicrhau bod y cyfarpar yn ddiogel i’w ddefnyddio. Mae’n rhaid defnyddio amleddau cydnaws ar gyfer pob eitem o gyfarpar a gosod trosglwyddwyr a derbynwyr gyda mewnbwn a sensitifrwydd priodol ar gyfer y defnydd arfaethedig.

Mae’n rhaid i chi barchu sensitifrwydd perfformwyr o ran cyswllt corff bob amser wrth osod cyfarpar. Bydd angen i chi ofyn am gyngor gan yr adran wisgoedd ac arbenigwyr wigiau, gwallt a cholur os oes unrhyw broblemau gosod yn codi yn sgil gwallt neu ddillad y perfformiwr.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gosod cyfarpar di-wifr i berfformwyr ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. egluro a chytuno ar ofynion ar gyfer cyfarpar di-wifr
  2. gwirio bod y cyfarpar di-wifr yn gyflawn, yn ddiogel, yn gweithio ac yn cydymffurfio â’r fanyleb
  3. gosod a chysylltu erialau i fanteisio i’r eithaf ar ddewis amledd radio a lleihau’r tebygolrwydd o gyfnodau tawel heb sain
  4. gwirio bod cyflwr y batris yn ddigonol ar gyfer yr hyd arfaethedig o ddefnydd
  5. nodi a mynd i’r afael ag unrhyw namau, methiannau a diffygion yn y cyfarpar
  6. cydymffurfio gyda gofynion trwyddedu amledd radio perthnasol bob amser
  7. gwirio bod cydrannau cyfarpar yn bresennol, yn ddiogel, yn hylan ac yn gweithio
  8. egluro’r trefniadau gosod i’r perfformwyr, gan dynnu eu sylw at eitemau a allai ymddangos ar y sgrin neu effeithio ar drosglwyddiad fel arall
  9. gosod cyfarpar mewn modd sy’n parchu sensitifrwydd perfformwyr o ran cyswllt â’r corff, a defnyddio’r cyfarpar yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  10. sicrhau bod y cyfarpar yn ddiogel, yn anymwthiol ac yn gyfforddus ar gyfer y perfformwyr
  11. gosod y cyfarpar i fanteisio i’r eithaf ar berfformiad y cyfarpar, gan dalu sylw arbennig i leoliad meicroffonau, ceblau ac erialau
  12. tynnu neu addasu eitemau personol a allai ymyrryd â throsglwyddiad er mwyn lleihau eu heffaith
  13. gofyn am gyngor gan yr adran wisgoedd a’r arbenigwyr wigiau, gwallt a cholur am broblemau gosod a achosir gan ddillad neu wallt perfformiwr
  14. gweithredu ar unwaith i leihau tarfu ar berfformiad os bydd cyfarpar yn ddiffygiol
  15. tynnu, glanhau a gadael cyfarpar mewn cyflwr addas i’w hail-ddefnyddio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwy i gysylltu gyda nhw i nodi’r gofynion sydd i’w bodloni
  2. yr agweddau i’w hystyried wrth osod erialau ar gyfer sioe fyw
  3. pwysigrwydd gwirio cyfarpar i sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  4. sut i benderfynu ar y sensitifrwydd mewnbwn sain sydd ei angen
  5. egwyddorion sylfaenol systemau trosglwyddo amledd radio
  6. dangosyddion cyffredin namau, methiannau a diffygion a sut i fynd i’r afael â nhw
  7. egwyddorion sylfaenol monitro mewn-glust
  8. ymwybyddiaeth o bryderon iechyd a diogelwch ynghylch trosglwyddiadau amledd radio
  9. y pryderon iechyd a diogelwch ynghylch y defnydd o fonitorau mewn-glust
  10. y gofynion statudol a gweithdrefnol ar gyfer diogelwch mewn gwahanol leoliadau
  11. ble i osod cyfarpar fel nad yw’n rhwystro symudiad y perfformiwr ond yn sicrhau bod y cyfarpar yn gweithio mor effeithiol â phosibl
  12. nodweddion systemau trosglwyddo amledd radio a sut i fanteisio i’r eithaf ar eu gweithrediad ar gyfer y perfformiwr
  13. sut i guddio cyfarpar mewn gwallt a dillad
  14. pwy i gysylltu gyda nhw pan fo dillad perfformiwr yn golygu ei fod yn anodd gosod y cyfarpar
  15. sut i drin perfformwyr yn gwrtais
  16. sut i egluro materion technegol i rywun sydd ddim yn dechnegol
  17. sut i sicrhau bod eitemau o gyfarpar y mae perfformiwr yn eu gwisgo yn lân yn hylendidol
  18. pam mae’n bwysig gadael cyfarpar mewn cyflwr da ar ôl eu defnyddio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL31

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol, Technegydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gosod; cyfarpar di-wifr; perfformwyr; cynyrchiadau theatr a byw;