Gosod a gwirio cyfarpar sain ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod a gwirio cyfarpar sain i’w ddefnyddio mewn cynyrchiadau theatr a byw.                                                                                                                               

Bydd angen i chi weithio’n effeithiol gydag eraill megis rigwyr neu isgontractwyr a sicrhau bod yr holl gyfarpar a’r ategolion sain wedi’u gosod yn ôl y cynllun, yn ddiogel, yn gweithio’n gywir ac yn bodloni anghenion penodol y cynhyrchiad. Bydd angen i chi ddyfeisio datrysiadau i unrhyw rwystrau neu broblemau. 

Mae’r safon hon hefyd yn ymdrin â mynd i’r afael â darpariaeth systemau meic cyswllt.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â gosod a gwirio cyfarpar sain ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio bod math a safle’r cyfarpar yn unol â’r fanyleb
  2. cadarnhau bod y systemau wedi’u gosod ac yn gweithio yn unol â’r fanyleb
  3. cyflawni dadansoddiad electroacwstig i gynnig arwydd o gydbwysedd sain ym mhob ardal o’r lleoliad pan fo angen
  4. gwerthuso canlyniadau gwiriadau i ddarparu arwydd eglur o ba mor dda mae systemau’n bodloni’r gofynion
  5. diwygio manylebau i gynhyrchu’r ansawdd sain gorau posibl
  6. gwirio bod cyflwr unrhyw fatris yn ddigonol ar gyfer yr hyd defnydd arfaethedig
  7. cydosod cyfarpar yn unol â’r fanyleb neu ofynion eraill
  8. gwirio bod unrhyw gyfarpar sydd wedi’i logi yn cydymffurfio gyda’r rhestr cyflenwad, gan adrodd am unrhyw anghysondebau
  9. gosod erialau i fanteisio i’r eithaf ar dderbyn amledd radio (RF) a lleihau tebygolrwydd o sain yn rhyddhau a chydymffurfio gyda phrosesau rheoli amledd
  10. gosod meicroffonau a defnyddio cynnydd yn y system a chydraddoliad i osgoi atseinio  
  11. gosod trosglwyddyddion a derbynyddion gyda sensitifrwydd mewnbwn sy’n briodol ar gyfer y defnydd arfaethedig
  12. gosod systemau meic cyswllt sy’n bodloni gofynion y cynhyrchiad
  13. gosod a rhyng-gysylltu’r cyfarpar a’r ceblau yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  14. nodi a mynd i’r afael ag unrhyw namau, methiannau a diffygion yn y cyfarpar
  15. gwirio bod y ceblau’n bodloni’r meini prawf perfformio mewn perthynas â’u defnydd
  16. gwirio bod y cyflenwad pŵer sydd ar gael yn bodloni’r gofynion
  17. cyflawni gweithdrefnau pweru yn unol â gofynion y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer sain byw
  2. y gwahanol wiriadau a dadansoddiadau ar gyfer systemau sain yn gyffredinol ac eitemau unigol o gyfarpar
  3. pwysigrwydd gwirio cyfarpar a sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r gofynion diogelwch
  4. y rhwydweithiau a’r systemau TG perthnasol a sut gallai’r rhain effeithio ar gysoni
  5. dangosyddion namau, methiannau a diffygion cyffredin a sut i fynd i’r afael â nhw
  6. pwy ddylid cysylltu gyda nhw i nodi gofynion y cynhyrchiad sydd i’w bodloni
  7. ategolion gwarchod rhag y tywydd a allai fod yn angenrheidiol a sut i’w defnyddio
  8. y ffynonellau sain arfaethedig a ble byddan nhw’n cael eu gosod
  9. unrhyw ofynion a ffurfiau labelu sy’n ofynnol
  10. pwy sydd angen derbyn cadarnhad am systemau sain, a phryd mae angen hyn yn ysgrifenedig
  11. lleoliad a gofynion gosod safleoedd sain
  12. y rheoliadau diogelwch trydanol sy’n berthnasol a’r gweithdrefnau gwirio diogelwch ar gyfer cyfarpar wedi’u gweithredu gan y prif gyflenwad, gan gynnwys gwirio dyfeisiau cludadwy (PAT)
  13. y rheoliadau a’r gweithdrefnau diogelwch fel y maen nhw’n berthnasol i rigio, gosod, gweithredu, rhwng sioeau, dad-rigio, storio ac, os yn briodol, cludo
  14. y gofynion statudol a gweithdrefnol ar gyfer diogelwch mewn lleoliadau o wahanol fath a maint
  15. dulliau rigio a dad-rigio yn ddiogel, a sut a phryd i’w rhoi ar waith
  16. yr agweddau diogelwch o ran llwybro ceblau
  17. y technegau codi a gostwng goleuadau ac unrhyw reoliadau perthnasol
  18. egwyddorion systemau trosglwyddo amledd a monitorau mewn-glust
  19. y pryderon iechyd a diogelwch ynghylch trosglwyddiadau amledd radio a monitorau mewn-glust
  20. yr egwyddorion acwstig a sut i’w rhoi ar waith
  21. mathau a nodweddion meicroffonau, seinchwyddwyr ac uchelseinyddion, a sut i sicrhau eu bod nhw’n gweithredu mor effeithiol â phosibl ar gyfer y sain sy’n ofynnol
  22. goblygiadau defnyddio dyfeisiau atal atseinio a giatiau sŵn
  23. y mathau cyffredin o gysylltwyr a’u cyfluniadau pin
  24. protocolau safonol ffeiliau
  25. sut i ddylunio systemau meic cyswllt sy’n manteisio i’r eithaf ar systemau presennol ac sy’n cydymffurfio â’r arfer gorau
  26. sut i awgrymu dewisiadau amgen i berfformwyr ac aelodau’r tîm cynhyrchu pan nad oes modd bodloni’r gofynion meic cyswllt
  27. yr agweddau i’w hystyried wrth osod erialau
  28. pam mae’n bwysig gadael cyfarpar mewn cyflwr da ar ôl eu defnyddio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL30

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol, Technegydd Sain, Gweithredwr Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gosod; sain; system sain; cyfarpar sain; cynyrchiadau theatr a byw;