Gosod goleuadau, systemau rheoli ac ategolion ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod, dwyn goleuadau i ffocws a gwirio systemau rheoli ac ategolion. Bydd angen i chi weithio gydag eraill i osod neu rigio’r holl eitemau a’r cyfarpar hanfodol yn y safle cywir.

Mae hyn yn cynnwys paratoi’r ddesg oleuo cyn rhaglennu a gwifro a gosod eitemau ymarferol. 

Bydd angen i chi ddwyn goleuadau i ffocws yn unol â’r cynlluniau a’r cyfarwyddiadau, gwirio bod popeth yn gweithio’n gywir a nodi unrhyw broblemau sydd angen mynd i’r afael â nhw. 

Bydd angen i chi hefyd gludo’r cyfarpar i’r lleoliad a pharatoi i gludo’r cyfarpar o’r ardal berfformio. 

Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr Goleuo a’r rheiny sydd ynghlwm â gosod goleuadau, systemau rheoli ac ategolion ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi a gwirio bod yr offer, y nwyddau traul, yr ategolion, y cyfarpar mynediad a’r cyfarpar eraill sydd eu hangen ar gyfer goleuo fel sydd wedi’u nodi ar gynlluniau goleuo yn gweithio’n ddiogel cyn eu defnyddio
  2. paratoi ardaloedd perfformio er mwyn cludo cyfarpar i mewn iddyn nhw
  3. gosod cyfarpar, ac ategolion i gynorthwyo gyda’r gwaith rigio a dwyn goleuadau i ffocws
  4. trin cyfarpar, offer a nwyddau traul mewn ffordd sy’n cynnal eu cyflwr ac iechyd a diogelwch chi’ch hun ac eraill
  5. gosod goleuadau, systemau rheoli ac ategolion o fewn amserlenni y cytunwyd arnyn nhw
  6. cynnal diogelwch y cyfarpar
  7. cysylltu’r cyfarpar goleuo i ffynonellau trydanol diogel yn unol â gofynion y cynlluniau goleuo
  8. llwybro, gosod a thacluso’r holl geblau mewn ffyrdd sy’n lleihau’r risg o ddifrod
  9. gwirio cyfarpar goleuo gan ddilyn gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer ymdrin â namau sydd wedi’u nodi
  10. rigio’r cyfarpar a’r ategolion goleuo yn unol â’r gofynion dwyn i ffocws ac iechyd a diogelwch  
  11. labelu’r cyfarpar a’r ategolion goleuo yn unol â’r cynlluniau goleuo
  12. gwirio bod y ffitiadau a’r gosodiadau ymarferol yn bodloni’r graddfeydd dylunio cywir ac wedi’u gosod mewn lleoliadau yn unol â’r cynlluniau
  13. addasu’r cyfarpar a’r ategolion goleuo i gyflawni’r effaith ddymunol a chloi’r addasiadau unwaith y byddwch chi wedi cyflawni’r ffocws a ddymunir
  14. cadw llinellau a’r cyfarpar diangen mewn lleoliadau cywir a gofalu nad oes unrhyw lanast yn yr ardal waith
  15. nodi ac ymdrin â difrod yn unol â’r gofynion sefydliadol, gan adrodd am unrhyw rai na allwch chi ymdrin â nhw i’r bobl briodol
  16. storio’r cyfarpar a’r nwyddau traul mewn blychau priodol i leihau’r risg o ddifrod

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddehongli gwybodaeth y plot goleuo yn gywir
  2. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n ymwneud â pharatoi a gosod cyfarpar ac ategolion goleuo
  3. pwysigrwydd deall a chyflawni bwriadau’r dylunydd goleuo
  4. y cyfarwyddiadau sydd angen eu rhoi i staff eraill
  5. sut i lunio a gwirio rhestr o’r offer a’r nwyddau traul
  6. yr egwyddorion sylfaenol ynghlwm â dadansoddi namau, y namau sy’n debygol o ddigwydd unwaith y bydd y cyfarpar wedi’u cysylltu gyda chylchedau rheoli
  7. sut i wirio’r cyfarpar ac ymdrin â namau, a phwysigrwydd gwirio’r cyfarpar cyn gosod a rigio
  8. sut i osod lampau newydd a phwysigrwydd sicrhau bod cyfarpar rydych chi’n gweithio arnyn nhw wedi’u hynysu
  9. damcaniaethau protocolau rheoli goleuo gan gynnwys cadw rhediadau’n effeithlon a chyfyngiadau’r protocolau hyn
  10. sut i wirio cyflenwadau trydan dros dro ac asesu eu haddasrwydd
  11. pwysigrwydd cysylltiadau diogel ac egwyddorion sylfaenol daearu, bondiau daear a bondiau atodol
  12. sut mae systemau tracio perfformwyr yn rhyngweithio gyda goleuadau, sain, fideo, effeithiau ac awtomeiddio
  13. egwyddorion dyfeisiau sydd wedi’u cynnal gan ddata a phrotocolau rheoli
  14. yr angen am y math cywir o gebl, cysylltydd a therfyniad llinell
  15. pwysigrwydd osgoi gollyngiadau goleuni
  16. yr arfer ddiogel ar gyfer cysylltu cyfarpar goleuo gan gynnwys defnyddio ceblau a phlygiau maint cywir ar gyfer y llwyth
  17. sut i gysylltu cyfarpar goleuo yn unol â gofynion y cynllun goleuo, y defnydd o ‘gysylltu gyda cheblau’ a ‘chysylltu’n rhithiol’ a sut i gyflawni’r effeithlonrwydd mwyaf posibl o bob uned oleuo
  18. posibilrwydd gostyngiadau mewn foltedd a’r effaith bosibl ar ffynonellau goleuadau dadwefru
  19. pwysigrwydd dwyn golau i ffocws gan gynnwys lleoliad diogel i chi mewn perthynas â’r cyfarpar sy’n cael ei ddwyn i ffocws
  20. pwysigrwydd rigiau’n cael eu terfynu’n briodol cyn eu dwyn i ffocws
  21. effaith posibl rigio ar ddwyn i ffocws
  22. sut i alw ffocws os oes rhywun arall yn dwyn i ffocws ar eich rhan chi
  23. pwysigrwydd diogelu addasiadau terfynol a gadael yr ardal waith yn ddiogel ac yn daclus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL29

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Goleuo, Technegydd Clyweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gosod; goleuo; systemau goleuo; systemau rheoli; cynyrchiadau theatr a byw;