Paratoi a gosod setiau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod setiau ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw. Bydd angen i chi ddehongli darluniau technegol, a chwilio am unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer gosod setiau.

Bydd hyn hefyd yn ymwneud â gweithio yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer bob amser.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â pharatoi a gosod setiau mewn cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli darluniau technegol i gynllunio gofynion gosod
  2. gwirio’r cydrannau i sicrhau bod popeth ar gael i’w defnyddio
  3. cydosod y set yn unol â safonau’r diwydiant a gofynion y cynhyrchiad
  4. egluro gwybodaeth os oes unrhyw gyfarwyddiadau’n aneglur
  5. defnyddio technegau trin, codi a gostwng diogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  6. nodi ac ymdrin gydag unrhyw faterion wrth osod setiau yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  7. cadarnhau bod y set yn ddiogel ac yn cydymffurfio
  8. gweithio yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n ymwneud â pharatoi a gosod setiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddarllen a dehongli darluniau technegol i osod y setiau
  2. gofynion, cyfyngiadau a therfynau amser y cynhyrchiad
  3. y derminoleg llwyfan a’i ystyr gan gynnwys cefn llwyfan, blaen llwyfan, chwith y llwyfan a de’r llwyfan
  4. y symbolau, y derminoleg a’r arferion a ddefnyddir ar gyfer y darluniau a’r manylebau trydanol, mecanyddol neu electronig
  5. sut i wirio bod yr holl gydrannau ar gael yn ôl y cynllun
  6. y gweithdrefnau a’r technegau ar gyfer trin a chodi a gostwng â llaw yn ddiogel
  7. pwy yw’r person sy’n gyfrifol am osod y set a rhoi cyfarwyddiadau
  8. pam mae’n bwysig cymryd cyfarwyddiadau gan y person hwnnw’n unig
  9. y protocolau diogelwch i’w defnyddio wrth osod setiau
  10. y problemau a allai godi wrth osod setiau a sut i fynd i’r afael â’r rhain
  11. pwysigrwydd gadael yr ardal waith yn ddiogel ac yn daclus a sut i wneud hynny
  12. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer mewn perthynas â pharatoi a gosod setiau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSTTL11

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gosod; setiau; cynyrchiadau theatr a byw;