Cysylltu systemau a chyfarpar trydanol dros dro ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio’r gweithdrefnau cywir ar gyfer cynllunio a gweithredu’r systemau dosbarthu trydan dros dro i fodloni gofynion y cynhyrchiad.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chysylltu systemau a chyfarpar trydanol dros dro ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu’r systemau a’r cyfarpar trydanol yn unol â’r gofynion rheoleiddiol a safonau’r diwydiant (BS7909)
- nodi a mynd i’r afael ag unrhyw beryglon rhagweladwy yn unol â’r gofynion rheoleiddiol a safonau’r diwydiant
- dewis a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol a’r offer gofynnol ar gyfer y dasg
- nodi’r dulliau priodol o ynysu trydanol cyn cysylltu
- cyflawni gweithdrefnau ynysu i sicrhau cysylltiad diogel yn unol â’r rheoliadau trydanol a’r gweithdrefnau cymeradwy
- cyflawni gwiriadau a chofnodi’r canlyniadau yn ystod y broses
- gwneud cysylltiadau dros dro yn unol â’r manylebau a chydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol, y codau ymarfer a’r safonau diwydiant cyfredol
- gwirio bod unrhyw gysylltiadau’n drydanol ac yn fecanyddol gadarn ac wedi’u nodi yn unol â safonau’r diwydiant
- gweithredu i unioni unrhyw ddiffygion sydd wedi’u nodi yn dilyn cysylltu
- cwblhau’r dogfennau sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli diagramau a darluniau i hwyluso cysylltu’r systemau a’r cyfarpar trydanol
- y prif fathau o wahanol gysylltiadau trydanol a’u manteision a’u cyfyngiadau
- y gweithdrefnau ar gyfer ynysu diogel
- y goblygiadau ar gyfer y bobl berthnasol sy’n cyflawni gwaith ynysu
- y gweithdrefnau ar gyfer cysylltu cylchedau cam sengl ac aml-gam
- y gweithdrefnau ar gyfer profi bod cysylltiad yn drydanol ac yn fecanyddol gadarn
- pam mae’n bwysig gwirio elfennau unigol cyn cysylltu â’r system
- beth a olygir gan wirio PAT, pryd mae ei angen a sut ddylid ei gyflawni.
- sut i bennu pa gysylltiadau mewn cylchedau a dargludyddion amddiffynnol, gan gynnwys cysylltiadau â therfynellau, sy’n addas
- y goblygiadau ar y dewis o gysylltiadau mewn perthynas â dibenion parhaol neu dros dro
- gofynion cymalau a chysylltiadau i fod yn ddigon cryf ac yn gallu dargludo’n ddigonol i ganiatáu ceryntau diffygiol i allu treiddio heibio ac i osgoi cyrydu
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer cwblhau dogfennau
- pwysigrwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) ac offer ar gyfer tasgau penodol
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer cynnal asesiad o systemau gweithio diogel gan gynnwys trwyddedau i weithio
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer adrodd am unrhyw sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau a allai fod yn beryglus
- y safonau diwydiant cyfredol ar gyfer systemau trydanol dros dro ar gyfer cynyrchiadau
- egwyddorion damcaniaeth trydanol sy’n caniatáu cysylltu’r systemau a’r cyfarpar trydanol yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL27
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Goleuo, Pennaeth Llwyfan
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cysylltu; systemau a chyfarpar trydanol dros dro; cynyrchiadau theatr a byw;