Gwerthuso ac adrodd am ddatrysiadau cynaliadwyedd a ddefnyddir ar gyfer y cynhyrchiad
URN: SKSSP8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso dulliau, datrysiadau a gwelliannau cynaliadwy yn y dyfodol i agweddau allweddol megis ynni, trafnidiaeth, deunyddiau, arlwyo a chylcholdeb.
Bydd hyn hefyd yn golygu dadansoddi ac adrodd ar effaith allyriadau carbon y cynhyrchiad.
Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â chyflwyno argymhellion a rhannu arfer gorau.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau arweinwyr a rheolwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad. Gallai’r cydlynydd Cynaliadwyedd ymgymryd â rhai o’r tasgau fel arall yn dibynnu ar fath, maint a chyllideb y cynhyrchiad a maint y tîm cynaliadwyedd sydd wedi’u penodi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael a dadansoddi’r adroddiad allyriadau i ddeall effaith allyriadau carbon y cynhyrchiad
- asesu a dadansoddi effaith y camau gweithredu a roddwyd ar waith i leihau ôl troed carbon y cynhyrchiad
- casglu’r wybodaeth i baratoi adroddiad dirwyn i ben y cynhyrchiad, y cofnod gwyrdd terfynol neu’r newyddlen derfynol ymhen amserlen benodol
- llunio’r adroddiad a chynnig argymhellion sy’n tynnu sylw at effeithiau cost a llwyddiannau
- cyflwyno’r adroddiad dirwyn i ben ar gynaliadwyedd, y cofnod gwyrdd terfynol neu’r newyddlen derfynol i’r cast, y criw a’r cyfranwyr
- llunio a rhannu astudiaethau achos gan fanteisio ar straeon deniadol o’r data yn ôl yr angen
- cyfathrebu lliniariadau, camau gweithredu cadarnhaol a dysgu gan ddathlu llwyddiant gyda’r cast, y criw, y cyflenwyr a’r cyfranwyr
- adrodd am y gwersi sydd wedi’u dysgu i’r rheiny sy’n gyfrifol am gynyrchiadau parhaus neu yn y dyfodol yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gaffael a dadansoddi’r adroddiad ar allyriadau carbon
- pwysigrwydd deall effaith allyriadau carbon y cynhyrchiad
- sut bu i’r camau gweithredu cynaliadwyedd effeithio ar yr ôl troed carbon
- sut i gyfrifo’r allyriadau a gafodd eu hosgoi’n gywir
- pwysigrwydd teilwra negeseuon i’r gynulleidfa i gyflwyno’r effaith orau o ran y dysgu
- yr agweddau i’w cynnwys yn eich adroddiad dirwyn i ben, y cofnod gwyrdd terfynol neu’r newyddlen derfynol er enghraifft dadansoddiad o’r allyriadau, yr effeithiau cost, tanwydd a’r arbedion CO2
- pwysigrwydd cydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfrinachedd gwybodaeth a rhannu data
- y dulliau y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer cyflwyno adroddiad dirwyn i ben, cofnod gwyrdd terfynol neu newyddlen derfynol i’r cast, y criw a’r cyfranwyr
- manteision llunio astudiaethau achos i rannu arfer gorau
- pwysigrwydd rhannu dysgu am gynaliadwyedd i ddatblygu diwylliant cynaliadwyedd cydweithredol yn fewnol ac yn allanol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSP8
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinydd Cynaliadwyedd, rheolwr Cynaliadwyedd, ymgynghorydd Cynaliadwyedd, cydlynydd Cynaliadwyedd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwerthuso; adrodd; cynaliadwyedd; datrysiadau cynaliadwyedd; cynyrchiadau;