Cydweithio â’r cynhyrchiad i weithredu a monitro llwyddiant datrysiadau cynaliadwy
URN: SKSSP5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro datrysiadau cynaliadwyedd rydych chi’n eu gweithredu er mwyn gwerthuso eu heffaith.
Bydd hyn yn golygu cydweithio gyda Phenaethiaid Adran ynghyd â chyflenwyr, gwerthwyr a chyfleusterau.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau arweinwyr a rheolwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad. Gallai’r cydlynydd Cynaliadwyedd ymgymryd â rhai o’r tasgau fel arall yn dibynnu ar fath, maint a chyllideb y cynhyrchiad a maint y tîm cynaliadwyedd sydd wedi’u penodi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu gyda’r timau perthnasol i wirio ymarferoldeb a chyflawnadwyedd y datrysiad cynaliadwyedd
- cadarnhau’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer unrhyw gostau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd
- cydweithio gyda’r adran gyllid i gytuno ar dempledi a modelau anfonebau a gofynion monitro cynaliadwyedd i gynorthwyo gyda chaffael data a chynorthwyo gyda safoni
- ymchwilio a chynnig dewisiadau amgen pan nad ydy’r cynlluniau gwreiddiol yn ymarferol
- monitro a chofnodi llwyddiant treialon a datrysiadau sydd wedi’u mabwysiadu
- cymharu a chyferbynnu llwyddiant y datrysiadau a ddewiswyd
- asesu a chyfathrebu effeithiau cadarnhaol ehangach y datrysiadau cynaliadwy
- pennu mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a safonau’r diwydiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gyfrifo cost datrysiadau cynaliadwyedd a gweithio gan gadw at y gyllideb, er enghraifft trafod y gyllideb i symud gwariant o wariant tanwydd i logi cyfarpar carbon isel
- pa ddata sydd angen ei gasglu a’r offer i’w fonitro megis cyfarpar, systemau telemetreg ac opsiynau
- sut i gyfathrebu gyda’r adran gyllid ar gyfer safoni
- y systemau a’r offer a ddefnyddir gan y tîm cynhyrchu a’r tîm cyfrifon i olrhain a dosbarthu gwybodaeth
- y dulliau a’r offer i fonitro a chofnodi llwyddiant y datrysiadau
- sut i gymharu a chyferbynnu’r datrysiadau cynaliadwyedd a ddefnyddiwyd
- sut i asesu arbedion carbon y datrysiadau cynaliadwyedd a ddefnyddiwyd
- pwysigrwydd cyfathrebu effeithiau cadarnhaol ehangach y datrysiadau cynaliadwy er enghraifft defnyddio datrysiadau ynni Hybrid gan gynnwys Systemau Storio Ynni Batri
- y gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a safonau’r diwydiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSP5
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinydd Cynaliadwyedd, rheolwr Cynaliadwyedd, ymgynghorydd Cynaliadwyedd, cydlynydd Cynaliadwyedd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cydweithio; gweithredu; monitro; llwyddiant; cynaliadwyedd; datrysiadau cynaliadwy; cynyrchiadau;