Datblygu a chynnal cyfathrebu ar ethos a mentrau cynaliadwyedd y cynhyrchiad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal sianeli cyfathrebu ar gynaliadwyedd gan gynnwys diweddariadau a chofnodion cynaliadwyedd o gychwyn y cynhyrchiad hyd at yr adroddiad dirwyn i ben.
Mae hefyd yn ymwneud â phwysigrwydd defnyddio’r diweddariadau a’r cofnodion hyn i barhau i ymgysylltu gyda’r cast, y criw a’r cyfranwyr a sicrhau eu bod wedi’u hysgogi ac i ddathlu llwyddiannau.
Mae’r safon hon hefyd yn ymdrin ag addysgu’r cast, y criw a’r cyfranwyr ar ddulliau cynhyrchu cynaliadwy.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau arweinwyr a rheolwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad. Gallai’r cydlynydd Cynaliadwyedd ymgymryd â rhai o’r tasgau fel arall yn dibynnu ar fath, maint a chyllideb y cynhyrchiad a maint y tîm cynaliadwyedd sydd wedi’u penodi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu a chytuno ar linellau cyfathrebu pendant gyda’r holl adrannau
- teilwra’r dulliau cyfathrebu a’r amserlenni i anghenion y cynhyrchiad
- meithrin perthnasau gyda’r holl adrannau a’r cyflenwyr a bod ar gael i ateb ymholiadau staff a chriw'r cynhyrchiad ar fesurau ac effaith cynaliadwyedd
- cyfathrebu’r nodau cynaliadwyedd a’r amcanion parhaus
- cydweithio gyda’r cynhyrchiad i amserlennu cyfathrebu cynaliadwyedd
- ymweld â’r holl fannau cynhyrchu i rannu a chasglu gwybodaeth ar weithredu cynaliadwyedd yn yr holl adrannau
- cynnig y diweddaraf ar gynnydd gweithredu cynaliadwyedd i’r cynhyrchiad, y cast, y criw a’r cyfranwyr, ynghyd ag unrhyw randaliad perthnasol eraill gan gynnwys arianwyr, comisiynwyr a darlledwyr
- teilwra a defnyddio adnoddau presennol
- defnyddio’r diweddariadau a’r cofnodion cynaliadwyedd i barhau i ymgysylltu ac ysgogi’r cast, y criw a’r cyfranwyr
- llunio adroddiad dirwyn ben neu gofnod gwyrdd terfynol i rannu gyda’r cynhyrchiad, y cast, y criw a’r cyfranwyr ac unrhyw randdeiliaid perthnasol eraill gan gynnwys cyflenwyr lle bo’n berthnasol
- cyfathrebu lliniariadau a chamau gweithredu a dysgu cadarnhaol gan ddathlu llwyddiant gyda’r cast, y criw, y cyflenwyr a’r cyfranwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i lunio cyfathrebiadau cynaliadwyedd cryno, er enghraifft diweddariadau a chofnodion
- sut i reoli a dadansoddi data i sicrhau cywirdeb wrth gyfathrebu am gynnydd ar ystod o fetrigau mesuradwy
- yr ystod o ddulliau, offer a gweithdrefnau cyfathrebu a ddefnyddir i ymgysylltu gyda gwahanol gynulleidfaoedd a chreu newid mewn ymddygiad
- manteision teilwra a defnyddio syniadau cyfathrebu cynaliadwyedd
- sut i gytuno ar amserlen gyda’r cynhyrchiad ar gyfer cyflwyno cyfathrebiadau cynaliadwyedd
- sut i gydweithio a chyfathrebu gyda’r holl dimau ac adrannau perthnasol wrth lunio cofnodion a diweddariadau cynaliadwyedd
- manteision ymweld â mannau cynhyrchu i gasglu gwybodaeth ar gamau gweithredu cynaliadwyedd
- sut mae bod yn rhan o’r cynhyrchiad ledled pob adran yn eich helpu gyda’ch rôl i weithredu arferion cynaliadwyedd
- pwysigrwydd dathlu llwyddiant a chydnabod dysgu yn y diweddariadau, cofnodion a’r adroddiadau dirwyn i ben