Datblygu cynlluniau cynaliadwyedd a chynnig datrysiadau

URN: SKSSP3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau cynaliadwyedd manwl a chynnig datrysiadau ar gynaliadwyedd o fewn y cynhyrchiad.

Bydd hyn yn golygu cysylltu gyda’r cynhyrchiad, y Penaethiaid Adran a thîm y cynhyrchiad i drafod a chwblhau cynlluniau a datrysiadau cynaliadwyedd ar gyfer y cynhyrchiad.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau arweinwyr a rheolwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad. Gallai’r cydlynydd Cynaliadwyedd ymgymryd â rhai o’r tasgau fel arall yn dibynnu ar fath, maint a chyllideb y cynhyrchiad a maint y tîm cynaliadwyedd sydd wedi’u penodi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu gyda’r Penaethiaid Adran i adolygu a chynllunio strategaethau datgarboneiddio a datrysiadau cynaliadwy
  2. nodi pwyntiau arwyddocaol o’r sgript rhwng y gofynion creadigol a chynaliadwy ar y sgrin a thu ôl i’r sgrin  
  3. ymchwilio a lleihau effeithiau posibl ar fioamrywiaeth
  4. awgrymu diwygiadau neu ddatrysiadau cynaliadwyedd amgen ar gyfer y cynlluniau arfaethedig
  5. cydweithio gydag arweinwyr y cynhyrchiad neu’r Penaethiaid Adran ar gynllunio a gweithredu cynaliadwyedd
  6. cytuno ar a chwblhau’r cynllun cynaliadwyedd ar y cyd â’r arweinydd cynaliadwyedd perthnasol
  7. diweddaru’r prif wneuthurwyr penderfyniadau ar y sut a’r pam o ran y datrysiadau cynaliadwyedd arfaethedig
  8. cyflwyno’r cynllun i’r cynhyrchiad, y cast, y criw, y cyfranwyr a’r cyflenwyr
  9. gofyn am adborth ac awgrymiadau ar y cynllun ar gyfer arferion cynaliadwy
  10. mynychu’r cyfarfod cyn y cynhyrchiad ar gyfer y cast, y criw a’r cyfranwyr i dynnu sylw at y cynlluniau datgarboneiddio ar gyfer y cynhyrchiad
  11. canfod cyfleoedd i ymgysylltu gyda’r cast, y criw a’r cyfranwyr ar y cynlluniau datgarboneiddio ar gyfer y cynhyrchiad
  12. llunio cofnod gwyrdd i gyfathrebu’n bendant beth ydy’r prif nodau cynaliadwyedd ar gyfer y cynhyrchiad a beth yw cyfrifoldebau’r tîm
  13. addasu’r cynlluniau cynaliadwyedd a chyfathrebu’r newidiadau i’r adrannau, y cast, y criw, y cyfranwyr a’r cyflenwyr
  14. llunio a rhannu diweddariadau cynaliadwyedd gyda’r cast, y criw a’r cyfranwyr
  15. pennu mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a safonau’r diwydiant

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodau, amcanion a chynlluniau’r cynhyrchiad gan gynnwys yr amserlen ffilmio a sut mae’r rhain yn rhyngweithio gyda’r cynlluniau cynaliadwyedd
  2. sut i adnabod y pwyntiau arwyddocaol rhwng y gofynion creadigol a’r gofynion cynaliadwyedd ar y sgrin a thu ôl i’r sgrin
  3. sut mae’r broses gynhyrchu’n gweithio
  4. anghenion cynhyrchu’r holl adrannau ac effeithiau posibl arferion cynaliadwyedd ar eu gwaith
  5. pwysigrwydd derbyn cytundeb a chymeradwyaeth gan y cynhyrchydd llinell a’r Penaethiaid Adran
  6. sut i dderbyn cymeradwyaeth gan yr adrannau, y cast, y criw a’r cyfranwyr ar gyfer arferion cynaliadwy
  7. y strategaethau i feithrin ymgysylltiad, gwella cymhelliant a datblygu diwylliant cynaliadwyedd cydweithredol yn fewnol ac yn allanol
  8. y ddeddfwriaeth a’r polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  9. pwysigrwydd y gadwyn gyflenwi
  10. sut gellir rhoi prif egwyddorion cynaliadwyedd gan gynnwys ynni, deunyddiau, trafnidiaeth a bioamrywiaeth ar waith a sut dylai’r egwyddorion hyn lywio penderfyniadau prynu  
  11. pwysigrwydd a manteision cyfathrebu’r diweddariadau cynaliadwyedd i ysgogi ymgysylltu, cyd-fynd â’r nodau cynaliadwyedd a hyrwyddo atebolrwydd
  12. y mathau o ddiweddariadau cynaliadwyedd i’w rhannu gyda’r cast, y criw a’r cyfranwyr er enghraifft newyddlenni digidol, cofnodion ffurfiol, e-byst, negeseuon grwpiau WhatsApp
  13. pwysigrwydd ymgysylltu gyda’r cast, y criw a’r cyfranwyr i ddarparu adborth ac awgrymiadau ar gyfer arferion cynaliadwy
  14. y gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a chanllawiau’r diwydiant

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSP3

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinydd Cynaliadwyedd, rheolwr Cynaliadwyedd, ymgynghorydd Cynaliadwyedd, cydlynydd Cynaliadwyedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu; cynaliadwyedd; cynlluniau cynaliadwyedd; datrysiadau; cynyrchiadau;