Cynghori a chynnig arweiniad ar gynaliadwyedd o fewn y cynhyrchiad

URN: SKSSP2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnig cyngor ac arweiniad i’r cynhyrchiad a thîm y cynhyrchiad gan gynnwys y cynhyrchydd llinell, y cynhyrchydd, y cast, y criw, y gadwyn gyflenwi a’r rheiny sy’n cyfrannu tuag at gynaliadwyedd yn y cynhyrchiad.  

Mae hefyd yn ymdrin ag ymateb i a chynnig datrysiadau ar gyfer newidiadau i’r cynhyrchiad, gan gynnwys penderfyniadau golygyddol a sut y gallan nhw effeithio ar y nodau cynaliadwyedd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau arweinwyr a rheolwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad. Gallai’r cydlynydd Cynaliadwyedd ymgymryd â rhai o’r tasgau fel arall yn dibynnu ar fath, maint a chyllideb y cynhyrchiad a maint y tîm cynaliadwyedd sydd wedi’u penodi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio gan gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth a’r polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  2. nodi meysydd effaith datgarboneiddio uchel i ganolbwyntio arnyn nhw yn y cynhyrchiad gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, deunyddiau, arlwyo a chylchrediad
  3. gwirio a chadarnhau bod asesiadau effaith amgylcheddol neu asesiadau eraill yn cael eu cynnal wrth weithredu mewn mannau naturiol a chynefinoedd bioamrywiol
  4. dwyn i ystyriaeth y gyllideb cynaliadwyedd a ddyrannwyd o fewn yr adrannau perthnasol gyda’r uwch dîm cynhyrchu i’ch galluogi i weithredu mesurau cynaliadwyedd
  5. cysylltu gyda’r Penaethiaid Adran gan fwrw golwg ar strategaethau datgarboneiddio, dewisiadau cynaliadwy a lleihau effeithiau posibl ar fioamrywiaeth
  6. cadarnhau’r datrysiad, y dechnoleg neu’r cyflenwr (cyflenwyr) cynaliadwy y cytunwyd arnyn nhw
  7. awgrymu diwygiadau neu ddatrysiadau amgen i’r adran gynhyrchu neu’r adrannau perthnasol ac amlinellu effeithiau peidio â dewis yr opsiynau cynaliadwy
  8. pennu mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a chanllawiau’r diwydiant
  9. darparu achos busnes ar gyfer cyllid cynaliadwyedd ychwanegol os yw ar gael
  10. cyflawni hyfforddiant diwydiant a diweddaru gwybodaeth cynaliadwyedd yn ôl yr angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth a’r polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  2. pwysigrwydd ymgysylltu gyda’r seilwaith a’r gadwyn gyflenwi lleol
  3. y cymunedau a’r sefydliadau lleol i’w cynnwys mewn cynlluniau cylchrediad a phrosiectau gwaddol
  4. pwy yw’r prif wneuthurwyr penderfyniadau ac eiriolwyr cynaliadwyedd yn y tîm a’r criw cynhyrchu, a phryd a sut i ymgysylltu gyda nhw
  5. pwysigrwydd deall effaith cynyrchiadau ar ardaloedd naturiol a chynefinoedd bioamrywiol
  6. sut dylai bioamrywiaeth ddylanwadu ar wneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau a’r arfer gorau
  7. yr effaith amgylcheddol a’r asesiadau eraill i’w cyflawni
  8. egwyddorion allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer cynhyrchiad, gan gynnwys sut mae cyflenwyr yn cyd-fynd â hyn, er enghraifft allyriadau cwmpas 1 – 3
  9. ystyr sero net a sut mae strategaethau lleihau carbon lefel cynhyrchu yn cyfrannu at dargedau sero net ehangach
  10. y datrysiadau cylchol ymarferol sy’n osgoi neu’n lleihau gwastraff
  11. yr arferion rheoli gwastraff amgylcheddol cadarn, gan gynnwys atal llygredd
  12. effaith ariannol datrysiadau cynaliadwy gan gynnwys costau ychwanegol, arbedion a chyfleoedd ariannu ychwanegol sydd ar gael drwy ddarlledwyr neu swyddfeydd ffilm lleol
  13. y meysydd cynaliadwyedd effaith uchel i ganolbwyntio ar ynni, trafnidiaeth, deunyddiau, arlwyo a chylchrediad
  14. y gwahanol fathau o fentrau cynaliadwyedd a defnyddio’r rhain i ategu’ch rôl a’ch cynlluniau er enghraifft ‘Green Rider’ Equity a’r Addewid Cynnwys Hinsawdd
  15. y gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a chanllawiau’r diwydiant
  16. yr arfer cynaliadwyedd a enillwyd trwy gyflawni hyfforddiant diwydiant a datblygiad proffesiynol parhaus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSP2

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinydd Cynaliadwyedd, rheolwr Cynaliadwyedd, ymgynghorydd Cynaliadwyedd, cydlynydd Cynaliadwyedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynghori; arwain; cynaliadwyedd; cynyrchiadau;