Pennu’r gofynion cynaliadwyedd ar gyfer y cynhyrchiad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dod i gytundeb ar, a dealltwriaeth ar y cyd o’r briff a nod creadigol y cynhyrchiad a nodi’r gofynion cynaliadwyedd sydd i’w bodloni yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Fel rhan o’ch rôl, bydd gofyn i chi ddeall y paramedrau o ran y gyllideb a’r costau, gan eu bod nhw’n berthnasol i gynaliadwyedd.
Mae angen i chi hefyd ddeall paramedrau’r cynhyrchiad a blaenoriaethu dylanwad ar feysydd lle mae allyriadau uchel, er enghraifft ynni, trafnidiaeth, deunyddiau, gwastraff a llety.
Mae disgwyl i chi allu darparu gwybodaeth ar gyflenwyr cynaliadwy.
Bydd angen i chi gyfathrebu gyda’r Penaethiaid Adran, Rheolwr y Cynhyrchiad a neu’r Cynhyrchydd Llinell, yn dibynnu ar faint y cynhyrchiad; mae’n bosibl y byddwch hefyd yn cyfathrebu gyda’r rheolwyr Uned a’r Cyflenwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau arweinwyr a rheolwyr Cynaliadwyedd ar gynhyrchiad. Gallai’r cydlynydd Cynaliadwyedd ymgymryd â rhai o’r tasgau fel arall yn dibynnu ar fath, maint a chyllideb y cynhyrchiad a maint y tîm cynaliadwyedd sydd wedi’u penodi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli a dadansoddi briff i nodi meysydd datgarboneiddio o fewn y cynhyrchiad gan ddwyn i ystyriaeth yr hyn nad yw’n agored i drafodaeth a’r hyn sy’n uchelgeisiol
- cyfathrebu gyda’r Penaethiaid Adran, a rheolwyr y Stiwdio a’r Cyfleuster ynghylch gofynion y briff
- ymchwilio strategaethau datgarboneiddio posibl a lleihau effeithiau posibl ar fioamrywiaeth ac effeithiau ar y criw
- rhoi’r ystyriaethau hyn ar waith gyda chamau gweithredu ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, o fewn y paramedr golygyddol
- awgrymu newidiadau i’r broses olygyddol i arddangos ymddygiad cynaliadwy ar y sgrin lle’n bosibl
- mynychu’r rhagchwiliadau ar y cyd â’r adrannau perthnasol ac asesu anghenion y set a’r lleoliad fel y cytunwyd arnyn nhw
- ymchwilio’r seilwaith a’r cyfleusterau arfaethedig ar gyfer y cynhyrchiad, gan ganolbwyntio ar sut y gellir integreiddio cynaliadwyedd yn effeithiol o ran eu cynllunio a’u defnyddio
- gweithio gyda’r cynhyrchiad, y Penaethiaid Adran ac uwch arweinwyr y cynhyrchiad i nodi’r prif fentrau datgarboneiddio i’w rhoi ar waith gyda’r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd
- gweithio gydag uwch arweinwyr y cynhyrchiad i lunio rhagolwg cychwynnol o’r allyriadau carbon yn unol â’r amserlen ffilmio
- awgrymu camau gweithredu amgen i’r cynhyrchiad a’r rheiny sydd ynghlwm â goruchwylio cynaliadwyedd pan fydd cynigion gwreiddiol yn cael effaith carbon uchel ar y cynhyrchiad
- cadarnhau a thrin a thrafod gyda’r cynhyrchiad sut gellir mynd i’r afael â’r gofynion cynaliadwyedd o fewn y gyllideb
- gweithio gyda thîm y cynhyrchiad i ddyrannu cyllideb ar gyfer cynaliadwyedd
- cefnogi dewis cyflenwyr, gwerthwyr a chyfleusterau gyda’r arbenigedd a’r cyfarpar gofynnol i fodloni’r gofynion cynaliadwyedd
- cadarnhau a phennu gofynion dirwyn i ben a gwaredu gwastraff posibl a chylchrediad deunyddiau gan gynnwys celfi, setiau, gwisgoedd, cyfarpar ac asedau
- adrodd am broblemau ac anawsterau i’r bobl berthnasol
- pennu mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a chanllawiau’r diwydiant a chyfathrebu â’r gwneuthurwyr penderfyniadau pan fo angen cydymffurfio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwy i gysylltu gyda nhw i gaffael briff y cynhyrchiad
- sut mae’r broses gynhyrchu’n gweithio a hierarchaethau’r cynhyrchiad
- y gwahanol raddfeydd a’r mathau o gynyrchiadau a’r heriau amgylcheddol penodol a’r cyfleoedd ar gyfer pob un
- amserlen y cynhyrchiad a lle gellir rhoi datrysiadau cynaliadwy ar waith
- pwysigrwydd deall a mynd i’r afael â’r tyndra rhwng y gofynion creadigol a’r gofynion cynaliadwy
- anghenion cynhyrchu pob adran a sut i gydweithio gyda nhw
- sut a pham mae pennu blaenoriaethau’n ategu eich rôl i ymgysylltu’r cynhyrchiad gyda’r nodau cynaliadwyedd
- y materoldeb a’r blaenoriaethau ar gyfer datgarboneiddio a ffrydiau gwaith adfer natur
- sut a ble i drin a thrafod cyfaddawdau a sut i gyfathrebu cyd-fuddion er enghraifft arbed amser, arian neu amgylchedd gwaith gwell
- pwysigrwydd addysgu a dylanwadu gyda diplomyddiaeth wrth gyflawni eich rôl
- y meysydd datgarboneiddio gan gynnwys ble mae lefelau uchel o garbon a meysydd allyriadau uchel
- sut i nodi’r meysydd allweddol a allai effeithio ar allyriadau, er enghraifft dyddiau yn y stiwdio a dyddiau ar leoliad, maint y criw, y dorf a’r ecstras
- y prif fentrau i ddwyn i ystyriaeth ynni a phŵer dros dro, trafnidiaeth, deunyddiau, arlwyo, gwastraff a gwaredu, er enghraifft cyflenwad pŵer hybrid, arlwyo fegan a llysieuol, defnyddio cerbydau trydan
- sut i gynnal cymeradwyaeth uwch aelodau o staff gyda mentrau datgarboneiddio
- y seilwaith a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer safleoedd y cynhyrchiad a’r lleoliadau ffilmio er enghraifft gwefrwyr cerbydau trydan, cynlluniau lleol, polisïau ailgylchu
- y defnydd o ddatrysiadau pŵer Hybrid gan gynnwys Systemau Storio Ynni Batri
- yr economi gylchol a chylchrediad y gadwyn gyflenwi a’r cymunedau a’r sefydliadau lleol i’w cynnwys wrth gynllunio cylchrediad
- y gwahanol offer ar gyfer rhagweld olion troed carbon a bodloni’r gyllideb garbon sydd wedi’i phennu ar gyfer y cynhyrchiad
- y gofynion adrodd i gwblhau rhestr / datganiad nwyon tŷ gwydr sy’n bodloni gofynion adrodd ar lefel cynhyrchu
- pwy ddylech chi eu hysbysu am broblemau neu anawsterau a phwy i dderbyn cymorth ganddyn nhw
- y gofynion polisi, rheoleiddiol a sefydliadol a chanllawiau’r diwydiant