Ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio a sain

URN: SKSRACC8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio a sain i’w darllen gan ohebydd, cyflwynydd neu berfformiwr a’u clywed gan wrandawyr.

Mae hefyd yn ymwneud â phennu terfynau amser a gweithio gan gadw atyn nhw wrth sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau sefydliadol.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sgrifennu mewn arddull eglur, llafar a darllenadwy gan osgoi defnyddio jargon
  2. defnyddio’r atalnodi, gramadeg a’r sillafu disgwyliedig
  3. defnyddio iaith, cynnwys a dulliau sy’n gweddu i ofynion y genre, ffurf a’r gynulleidfa darged neu arddull cyflwynydd y mae’r sgriptiau radio neu sain yn cael eu llunio ar eu cyfer
  4. gwirio bod yr wybodaeth yn y sgript radio neu sain yn fanwl gywir
  5. defnyddio’r cynllun a’r nodiadau perthnasol ar gyfer y genre a’r diben
  6. ysgrifennu cyflwyniadau, cofweini, casgliadau neu gyhoeddiadau ôl, gan osgoi dyblygu rhwng yr awgrymiadau a’r sgript
  7. cadarnhau bod cynnwys y sgript radio neu sain yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, rheoliadau’r diwydiant a’r canllawiau sefydliadol
  8. hysbysu cydweithwyr pan fo anawsterau’n codi wrth lunio’r sgript radio neu sain
  9. cyflwyno sgriptiau radio neu sain o’r hyd a gytunwyd arno ac yn brydlon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y technegau ysgrifennu ar gyfer y glust gan ddefnyddio Saesneg eglur i gyfarch pob gwrandäwr unigol
  2. pwysigrwydd iaith, cynnwys ac arddull amrywiol i weddu i’r genre, ffurf, gwahanol orsafoedd, cynnwys rhaglen neu arddull y cyflwynydd, er mwyn ymgysylltu gyda’r gynulleidfa darged
  3. yr egwyddorion gramadeg, atalnodi, sillafu a seineg, a’r adnoddau a’r dulliau ar gyfer gwirio’r rhain
  4. diben a defnydd arfaethedig y sgript radio neu sain neu’r deunydd ysgrifenedig
  5. sut i ddefnyddio cynllun neu nodiadau perthnasol
  6. sut i adrodd stori, cyflwyno dadleuon, crynhoi gwybodaeth gymhleth, nodi a chyfathrebu pwyntiau allweddol trwy ysgrifennu sydd wedi’i strwythuro’n dda
  7. y gwahaniaeth rhwng ffeithiau a sylwadau
  8. pryd i ychwanegu sgript at sŵn naturiol i wella’r dull adrodd stori
  9. sut i ysgrifennu sgriptiau radio neu sain sy’n briodol i arddull lleisiol cyflwynydd neu berfformiwr
  10. y ddeddfwriaeth, rheoliadau diwydiant a’r canllawiau sefydliadol perthnasol
  11. y graddfeydd amser, y terfynau amser a hyd y sgript radio neu sain gofynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC10

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ysgrifennu; sgriptiau; radio; sain; cynnwys; gofynion; genre; ffurf; cynulleidfa darged; adrodd straeon; graddfeydd amser; terfynau amser;