Cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain

URN: SKSRACC6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys radio neu sain i gynhyrchwyr, golygyddion neu gomisiynwyr mewn ffordd sy’n broffesiynol ac yn ddarbwyllol. Mae’n ymwneud â gofalu bod agweddau allweddol eich cyflwyniad a’r hyn sy’n gwneud y syniad yn arbennig yn eglur.

Mae’n ymwneud â chyflenwi’r holl wybodaeth gefndirol angenrheidiol ynghylch ymarferoldeb cynhyrchu ac amcan realistig o’r costau.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cyflwyno syniadau yn y diwydiannau radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflwyno cyflwyniadau am syniadau ar gyfer cynnwys radio neu sain
  2. gwirio bod yr wybodaeth sy’n ategu’r cynigion yn gywir ac yn berthnasol ac yn cynnwys amcan o’r costau
  3. gwirio bod y syniadau’n cydymffurfio gyda’r cyfyngiadau cyfreithiol a’r hawlfraint berthnasol ynghyd â’r codau ymarfer cyfredol
  4. cyflwyno’ch cynigion yn y ffurf benodedig
  5. cyflwyno syniadau’n eglur yn unol gyda gofynion y cynhyrchiad
  6. nodi’r adnoddau ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain
  7. cadarnhau bod y cynigion yn unol â’r cyfyngiadau o ran amser a’r gyllideb
  8. ceisio eglurder, addasu neu ailffurfio’ch cynnig yn seiliedig ar adborth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gwybodaeth am y gynulleidfa a’r farchnad arfaethedig, arddull yr orsaf a genre neu ffurf y cynhyrchiad
  2. sut i ddangos bod y syniad yn wreiddiol ac yn bodloni gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
  3. sut i lunio ac addasu cyflwyniadau i wahanol dderbynwyr
  4. sut i adnabod a pharatoi gwybodaeth gefndirol berthnasol
  5. sut i amcan costau’r cynhyrchiad radio neu sain
  6. sut caiff syniadau eu rhoi ar waith mewn gwahanol amgylcheddau
  7. gofynion y cynhyrchiad o ran hyd ac arddull, amser cynnal, cynulleidfa ac amcan gost y cynnwys
  8. yr ystyriaethau allweddol cyfreithiol a moesegol sy’n effeithio ar ddefnydd gwybodaeth megis cyfyngiadau hawlfraint
  9. gwahanol agweddau’r codau ymarfer cyfredol
  10. sut i baratoi am gwestiynau gan wneuthurwyr penderfyniadau
  11. sut i ddiwygio cynigion yn seiliedig ar adborth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC8

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyflwyno; radio; sain; cynnwys; syniadau; cynigion; costau; hawlfraint; gofynion y cynhyrchiad; adborth;