Cyflawni ymchwil ar gyfer cynnwys radio a sain
URN: SKSRACC4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni ymchwil ar gyfer ystod o gynnwys radio a sain ledled yr holl genres.
Mae hefyd yn ymwneud â meddu ar ddealltwriaeth bendant o ddiben yr ymchwil a sut caiff ei ddefnyddio.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cyflawni ymchwil i ddatblygu cynnwys yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi meysydd ar gyfer ymchwil i’w gyflawni sy’n berthnasol i’r briff cynnwys radio neu sain
- adnabod ffynonellau dichonol o wybodaeth a chyngor dibynadwy pan fo angen gwybodaeth arbenigol
- cytuno ar y defnydd o ffynonellau arbenigol a gwneud trefniadau i gyflwyno cytundebau pan fo angen
- manteisio ar ffynonellau perthnasol mewn ffordd sydd fwyaf tebygol o dderbyn yr wybodaeth ofynnol
- cynnal cofnodion cywir a hollgynhwysol a nodiadau cyfweld o’r ymchwil sydd wedi’i gyflawni
- sicrhau bod cronfeydd data cysylltiadau’n gyfredol
- cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â ffynonellau ac ymchwil yn ddiogel yn unol â’r protocolau sefydliadol
- dyfeisio cwestiynau a defnyddio technegau cwestiynu priodol i gaffael gwybodaeth
- gwirio fod yr wybodaeth yn ddilys, yn gywir ac yn addas i’w diben
- asesu gwybodaeth am ei pherthnasedd i’r cynnwys radio neu sain cyn dewis y deunydd fyddai’n bodloni’r briff ymchwil orau
- caffael cyngor am unrhyw feysydd cyfreithiol cynhennus
- casglu gwybodaeth o fewn y graddfeydd amser, y cyfyngiadau cyllideb a’r gofynion cytundebol y cytunwyd arnyn nhw
- defnyddio eich ymchwil i lunio nodiadau briffio ar ffurf briodol ar gyfer y defnyddiwr terfynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben yr ymchwil a natur y cynnwys radio neu sain y mae’n berthnasol iddo
- y graddfeydd amser, y terfynau amser a’r cyfyngiadau o ran adnoddau ar gyfer yr ymchwil sy’n ymwneud â chreu cynnwys radio a sain
- sut i ddadansoddi briff i mewn i dasgau ymchwil ymarferol
- y ffynonellau gwybodaeth arfaethedig gan gynnwys pobl, cyhoeddiadau, archifau a chronfeydd data
- sut i gysylltu gyda phobl i gaffael gwybodaeth
- pwysigrwydd cadw nodiadau ymchwil eglur, cywir a chyfredol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a’r protocolau sefydliadol ar gyfer cadw gwybodaeth ymchwil
- yr ystyriaethau masnachol, cyfreithiol a moesegol sy’n berthnasol wrth gysylltu gyda ffynonellau a pha drefniadau cytundebol sy’n berthnasol i ffynonellau arbenigol
- sut i werthuso gwybodaeth am berthnasedd, dibynadwyedd a chywirdeb a sut i wirio am wahaniaethau ac anghysondebau
- sut i gyflawni ymchwil ar y we, gan ddefnyddio peiriannau chwilio arbenigol lle’n briodol
- y risgiau cyfreithiol posibl, y gwallau ffeithiol a’r torri codau ymddygiad sydd ynghlwm â defnyddio deunydd o ffynonellau’r we neu’r cyfryngau cymdeithasol
- yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy’n effeithio ar y defnydd o wybodaeth ar gyfer cynnwys radio neu sain
- y cyfyngiadau a’r amodau sydd ynghlwm â’r defnydd o wybodaeth a’r goblygiadau o ddefnyddio deunyddiau hawlfraint ar gyfer cynnwys radio a sain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Screenskills
URN gwreiddiol
SKSRAC6
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
cyflawni; ymchwil; radio; sain; syniadau; ffynonellau; cyfweliad; gwybodaeth; ffynonellau;