Creu cynnwys gweledol i’w ddefnyddio mewn cynyrchiadau radio a sain

URN: SKSRACC28
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r broses delweddu radio; creu cynnwys gweledol i gyd-fynd gyda chynnwys radio a sain a helpu ennyn diddordeb cynulleidfaoedd sy’n gwrando ar sain ar ystod o lwyfannau a dyfeisiau.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n creu cynnwys gweledol i’w ddefnyddio gyda chynnwys radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis cyfarpar i gaffael cynnwys gweledol gwreiddiol i’w ddefnyddio ar gyfer radio a sain
  2. gosod a gwirio cyfarpar a gosodiadau a chyflawni cydbwysedd gwyn lle’n briodol
  3. tynnu lluniau llonydd neu symudol yn y cyfrwng a’r ffurf briodol i greu cynnwys gweledol ar gyfer defnydd radio a sain  
  4. monitro ansawdd technegol o gymharu â’r gofynion ansawdd yn ystod y broses gaffael
  5. gwirio bod y cynnwys digonol a pherthnasol ar gyfer y diben a fwriadwyd yn cael ei recordio
  6. cadarnhau bod cynnwys gweledol o ffynonellau presennol yn y ffurfiau priodol
  7. torri, golygu a llunio geiriad i gynnwys fideo gan ddefnyddio adnoddau golygu fideos safonol y diwydiant
  8. tocio, golygu ac ailfeintio delweddau llonydd gan ddefnyddio adnoddau trin delweddau safonol y diwydiant   
  9. cadw cynnwys gweledol yn y ffurf i’w ddefnyddio ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
  10. cywasgu asedau i fodloni’r gofynion
  11. cynhyrchu cynnwys gweledol sy’n dwyn i ystyriaeth confensiynau a chyfyngiadau’r llwyfan neu ddyfais y’i bwriadwyd ar ei gyfer  
  12. cyflwyno cynnwys gweledol erbyn y dyddiad cau, a gan gadw at unrhyw gyfyngiadau o ran y gyllideb
  13. labelu asedau a chynnwys yn unol â’r protocolau



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y briff sylfaenol ar gyfer y cynnwys gweledol; bwriad golygyddol a chreadigol, cynulleidfa darged y cynnwys a’r llwyfan radio neu sain
  2. sut i gaffael y cynnwys gweledol sy’n ofynnol; boed o ffynonellau presennol neu wedi’i gaffael yn wreiddiol ar ffurfiau priodol
  3. egwyddorion sylfaenol creu ffotograffiaeth, ffilmiau neu fideos, o ran cydosodiad a fframio delweddau a’r amrywiaeth o saethiadau sydd eu hangen er y dibenion golygu
  4. sut i wirio a phrofi cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  5. pryd a sut i gyflawni gwiriad cydbwysedd gwyn
  6. defnydd technegau goleuo sylfaenol
  7. nodweddion gweithredu’r dyfeisiau amrywiol sy’n gallu tynnu delweddau llonydd neu symudol; a chyfyngiadau’r cyfarpar sydd ar gael i chi
  8. sut i ofalu eich bod yn deall y dechnoleg a’r datblygiadau diweddaraf sy’n ymwneud â delweddu radio a sain
  9. sut i ddefnyddio adnoddau trin delweddau safonol y diwydiant
  10. sut i ddefnyddio adnoddau golygu fideos safonol y diwydiant
  11. ansawdd a goblygiadau eraill gwahanol codecs a chyfraddau cywasgu  
  12. y protocolau priodol ar gyfer cadw a labelu asedau
  13. y graddfeydd amser ar gyfer caffael, casglu a golygu cynnwys gweledol ar gyfer defnydd radio a sain, a lle’n briodol, y gyllideb

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC33

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sain; radio; creu; cynnwys gweledol; briff; golygyddol; creadigol; bwriad; delweddu; cyfarpar;