Adnabod, paratoi a chyfweld ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
URN: SKSRACC27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â deall natur a diben amrywiaeth o wahanol gyfweliadau radio neu sain, a’r gwaith paratoi sydd ei angen cyn y bydd pob cyfweliad yn cychwyn.
Mae’r safon hon hefyd yn ymdrin â chyflawni amrywiaeth o wahanol gyfweliadau o dan amodau amrywiol, gan ddefnyddio arddulliau cyfweld addas, ac ymateb yn briodol i ymatebion.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n adnabod, paratoi a chyfweld ar gyfer cynyrchiadau radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi diben a ffocws pob eitem, rhaglen neu gynhyrchiad radio neu sain
- adnabod a chanfod pobl i’w cyfweld, gan ddwyn i ystyriaeth yr angen am gydbwysedd a chymysgedd o safbwyntiau yn ôl yr angen
- gwirio ffeithiau cefndirol a manylion personol i gadarnhau perthnasedd ac awdurdod y cyfweleion
- paratoi’r cyfweleion gyda gwybodaeth am y trywyddau holi arfaethedig a’r cyfraniad sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw
- yn ystod y cyfweliad, mabwysiadu arddull cyfweld sy’n swnio’n ddigymell ac sy’n annog yr ymatebion sy’n ofynnol gan bob cyfwelai
- gwrando ar ymatebion y cyfweleion a dilyn atebion gyda chwestiynau sy’n cynnig eglurhad i gynulleidfaoedd
- cau pen y mwdwl ar gyfweliadau pan fo’n ofynnol gydag effaith golygyddol priodol
- cyflwyno cyfweleion i gynulleidfaoedd ar adegau priodol yn ystod yr eitem, rhaglen, neu gynhyrchiad radio neu sain
- gwirio bod safbwyntiau’r cyfweleion yn cael eu hadlewyrchu mewn ffordd deg a chywir pan gaiff cyfweliadau eu golygu i’w cyflwyno
- cadarnhau caiff unrhyw ffurflenni cydsynio a chaniatâd eu llofnodi gan y bobl briodol
- gwirio caiff aelodau’r timau cynhyrchu a thechnegol eu briffio gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw
- gweithio gan gadw at y cyfyngiadau o ran yr adnoddau a’r gyllideb ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben y cyfweliad radio neu sain
- y gwahanol fathau o gyfweliadau a’u gofynion amrywiol: megis byw neu wedi’u recordio, stiwdio neu leoliad
- y briff sydd wedi’u gytuno arno’n bendant ar gyfer pob cyfweliad, a’r cynulleidfaoedd targed
- sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac adnabod cyfweleion
- y dyddiad cau ar gyfer y cyfweliadau sydd wedi’u recordio, a’r hiciau ar yr awyr ar gyfer y cyfweliadau sydd wedi’u cwblhau a’u golygu
- hunaniaeth a lleoliadau cyfweleion unigol
- y cyllidebau a’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer pob cyfweliad
- pryd a pham y dylid defnyddio ffurflenni cydsynio a chaniatâd
- pryd a pham y dylid diogelu hunaniaeth cyfwelai
- y gwahaniaethau rhwng cynnal cyfweliadau sydd wedi’u paratoi a rhai digymell
- yr arddull cyfweld cywir i’w fabwysiadu er diben pob cyfweliad, a gofynion amrywiol gorsafoedd, rhaglenni a chynyrchiadau radio neu sain
- sut i baratoi cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i ddenu atebion amrywiol, a defnyddiau cwestiynau agored a chaeedig
- sut i baratoi i gael eich cyfweld, sut i ragweld cwestiynau a pharatoi atebion ymlaen llaw
- sut i wirio bod y cyfweleion yn deall yr hynny sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw
- pwysigrwydd cynnal cyswllt llygaid a defnyddio’r iaith corff priodol pan fyddwch yn cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb
- y codau gwisg perthnasol ar gyfer gwahanol achlysuron a lleoliadau yn ôl yr angen
- sut i gau pen y mwdwl ar gyfweliadau’n naturiol ac yn dwt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSSC30
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
sain; radio; cynyrchiadau; adnabod; cyfweld; cyfwelai; cynulleidfa; diben; ffocws; cyllidebau; adnoddau;