Defnyddio a datblygu’r llais ar gyfer cyflwyniad neu adroddiad radio a sain

URN: SKSRACC25
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio a datblygu’r llais fel prif adnodd cyflwynwyr neu adroddwyr radio a sain e.e. ar gyfer llyfrau sain.
Mae hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth o sut mae’r llais dynol yn gweithio, sut i ofalu amdano a sut i’w ddefnyddio’n effeithiol ar gyfer radio a sain.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cyflwyno neu’n adrodd ar gyfer radio neu sain; gan gynnwys y rheiny sydd mewn rolau cynhyrchu sy’n cynhyrchu cyflwynwyr neu adroddwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli’ch anadl wrth gyflwyno ar lafar, fel eich bod yn anadlu ar adegau priodol a’i fod yn anymwthiol a bod y llais yn llifo’n rhwydd
  2. mabwysiadu ystum rhwydd, cytbwys a diogel ar gyfer darllen a siarad
  3. mabwysiadu tôn llais ac arddull cyflwyno sy’n briodol i’r pwnc dan sylw, ffurf y rhaglen, yr adeg o’r dydd a’r gynulleidfa darged ar gyfer y cynhyrchiad radio a sain
  4. ynganu geiriau gydag eglurder a digon o fynd, ac ar gyflymder, traw, uchder, pŵer a naws amrywiol wrth gyfathrebu’r bwriad i’r gwrandawyr
  5. darllen yn uchel ar yr olwg gyda sicrwydd ac eglurder 
  6. addasu’r dull cyflwyno i ddwyn i ystyriaeth yr amgylchedd acwstig a’r math o gyfarpar darlledu a recordio a ddefnyddir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gynnal ystum rhwydd, cytbwys a diogel, a’r manteision ynghlwm â hynny
  2. y berthynas rhwng anadlu a chynhyrchu llais
  3. sut i reoli’r anadl yn effeithlon mewn cyflwyniadau ar lafar ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
  4. sut i ddatblygu medrusrwydd llais; megis rheoli cyflymder, cymryd saib, brawddegu, goslef, tôn a naws, i gipio sylw
  5. effeithiau gwahanol donau ac arddulliau cyflwyno, a’u heffaith ar wrandawyr cynyrchiadau radio a sain
  6. sut i ofalu am y llais a’i gadw’n iach; sut i adnabod arwyddion rhybudd o broblemau neu niwed a sut i’w rheoli
  7. arwyddocâd arddull a chyflwyniad lleisiol mewn perthynas â’r broses recordio ac i feicroffonau, yr amgylchedd acwstig a’r lleoliad 
  8. sut i addasu’r llais ar gyfer amgylcheddau acwstig amrywiol a’r gwahanol fathau o gyfarpar darlledu a recordio yn y meysydd radio a sain

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC28

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sain; radio; cyflwyniad; adrodd; llais; cyflwyniad ar lafar; tôn; arddull cyflwyno; amgylchedd acwstig;