Cynhyrchu cynnwys radio neu sain byw

URN: SKSRACC21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu deunydd radio neu sain byw. Mae’n ymdrin â chyfarwyddo a chefnogi cyflwynwyr, cyfranwyr a thimau stiwdio, mewn amgylcheddau cynhyrchu byw.

Mae hefyd yn ymwneud â briffio a rhoi cyfarwyddyd i gyflwynwyr a chyfranwyr, cydlynu gweithgareddau timau stiwdio, a monitro cynnydd o gymharu â chynlluniau’r cynhyrchiad.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cynhyrchu deunydd radio neu sain byw


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfarwyddo timau stiwdio i gyflawni cynlluniau’r cynhyrchiad, gan roi cyfarwyddiadau eglur i aelodau’r tîm cynhyrchu
  2. briffio cyflwynwyr fel eu bod yn deall gofynion eu rôl, gan roi cyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau a cheisio eglurder
  3. monitro’r cynhyrchiad byw i nodi unrhyw wyriadau gwirioneddol a/neu bosibl oddi wrth amserlenni, safonau a chynlluniau
  4. adrodd i’r bobl berthnasol ar unwaith am unrhyw newidiadau i gynlluniau a gytunwyd arnyn nhw’n flaenorol
  5. monitro a gwirio dilyniannau, a hyd eitemau, o gymharu â’r amserlenni a’r cynlluniau’n barhaus
  6. nodi amrywiadau mewn dilyniannau ac amseriadau sy’n effeithio ar drefn cynnal a hyd y cynhyrchiad
  7. gwneud addasiadau i drefniadau cynnal ac amserlenni i’w chwarae yn ôl yr angen
  8. nodi a gweithredu ar unwaith i ymdrin ag achosion o dorri’r gyfraith neu godau ymarfer, gan gynnwys y rheiny gan gyfranwyr
  9. cynnig adborth adeiladol i gyflwynwyr, gan awgrymu newidiadau sy’n gwella ansawdd cynyrchiadau radio neu sain byw
  10. cynnig gwybodaeth eglur a chryno i gyfranwyr am eu rolau a’u cyfrifoldebau a strwythur pob cynhyrchiad radio neu sain
  11. nodi cryfderau a gwendidau cyfranwyr i ddiwallu anghenion y cynhyrchiad radio neu sain
  12. cynnig cymorth sensitif a chwrtais i gyfranwyr pan fo’n briodol
  13. cyfrifo hyd cynyrchiadau a rhaglenni radio neu sain byw a phob golygfa yn fanwl gywir
  14. cymharu amseriadau golygfeydd gwirioneddol â’r amcangyfrifon drwy gydol y cynhyrchiad neu raglen radio neu sain
  15. nodi amseriadau ymarfer, a lle’n briodol unioni unrhyw anghysondebau sylweddol
  16. ail-gyfrifo amseriadau i ddwyn i ystyriaeth newidiadau i gynnwys y cynhyrchiad a’r drefn cynnal
  17. cyfrif eitemau wedi’u recordio ymlaen llaw i mewn ac allan ar adegau priodol
  18. monitro perfformiad o gymharu â’r sgript, gan gofnodi unrhyw anghysondebau rhwng perfformiadau gwirioneddol ac wedi’u sgriptio yn unol â gofynion y sefydliad
  19. cymryd camau gweithredu priodol i gynnal cywirdeb golygyddol pob cynhyrchiad radio neu sain
  20. sicrhau caiff y defnydd o unrhyw ddeunydd cerddoriaeth neu hawlfraint ei gofnodi yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cynnwys a strwythur y cynhyrchiad radio neu sain byw, gan gynnwys ei ddiben a’i ddeilliannau a fwriedir
  2. sut i gynnig adborth adeiladol i’r tîm ac i unigolion
  3. y drefn cynnal, goleunodau, dolenni ac amseriadau ar gyfer cynhyrchiad byw
  4. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y safonau darlledu cyfredol a chodau ymarfer y diwydiant
  5. nodweddion a hoffterau’r cyflwynwyr a’r cyfranwyr i lywio’r briffio ac adborth
  6. rôl arfaethedig pob cyfrannwr
  7. dyddiad, amser a’r lleoliad y bydd pob cyfrannwr yn cymryd rhan
  8. sut i ymdrin ag ymddygiad anfoesegol, enllibus neu annerbyniol gan gyfranwyr
  9. pa fewnosodiadau i’w defnyddio, eu trefn a’u hamseriadau
  10. sut i ofalu bod cynyrchiadau radio neu sain byw ar amser, rheoli cynnwys, a bodloni’r amcanion a’r terfynau amser
  11. pa drwyddedau, cydsyniadau a chaniatâd sydd eu hangen, a sut i’w caffael
  12. y gofynion adrodd am y defnydd o ddeunydd cerddoriaeth a hawlfraint

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSC24

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sain; radio; cynnwys; byw; cynhyrchu; cyflwynwyr; cyfranwyr; hawlfraint; trwyddedau; gofynion; cydsyniadau; caniatâd;