Cyfrannu syniadau tuag at y broses greadigol wrth ymdrin â radio a sain
URN: SKSRACC2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu syniadau tuag at y broses greadigol wrth ymdrin â radio a sain.
Bydd angen i chi ddefnyddio technegau adrodd straeon, meddwl yn greadigol, cydweithio gydag eraill, a goresgyn unrhyw rwystrau rhag bod yn greadigol.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cyfrannu syniadau tuag at y broses greadigol yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r posibiliadau creadigol sy’n briodol ar gyfer y genre a’r llwyfan dosbarthu
- rhoi cysyniadau adrodd straeon, ffurfiau a strwythurau ar waith wrth lunio cynnwys creadigol
- meddwl am syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain gan ddefnyddio technegau meddwl yn greadigol
- cyflwyno eich syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain i eraill mewn ffyrdd sy’n dangos eu manteision
- ymateb yn adeiladol i syniadau pobl eraill
- cydweithio gyda phobl eraill mewn ffyrdd sy’n gofalu bod modd rhannu gwybodaeth ac arfer dda
- nodi’r risgiau sydd ynghlwm â syniadau newydd a chreadigrwydd a lliniaru’r rhain
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfleoedd creadigol a chyfyngiadau llwyfannau a dyfeisiau ar gyfer cyflwyno cynnwys radio a sain
- egwyddorion sylfaenol adrodd straeon a sut i’w rhoi ar waith wrth greu cynnwys radio a sain
- cysyniadau ffurfiau a strwythurau mewn perthynas â’r holl fathau o gynnwys sain a chynnwys aml-lwyfan
- cyfleoedd a chyfyngiadau creadigol technegau delweddu radio a sain
- defnydd technegau i ysgogi syniadau a meddwl yn greadigol ar gyfer creu cynnwys radio a sain
- manteision cydweithio a rhannu gwybodaeth
- sut i gymryd risgiau derbyniol i greu ac arloesi a dysgu o arfer gorau a chamgymeriadau blaenorol
- y polisïau cyfreithiol, moesegol, golygyddol a sefydliadol a allai fod yn berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Screenskills
URN gwreiddiol
SKSRAC4
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
sain; radio; genre; llwyfan dosbarthu; cynhyrchu syniadau; cyflwyno syniadau; adrodd straeon; cynnwys; creu cynnwys;