Recordio cynnwys sain

URN: SKSRACC12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â recordio cynnwys sain, ar leoliad gan ddefnyddio dyfeisiau recordio symudol, ac mewn stiwdios. Mae’n ymwneud â phrofi a gwirio cyfarpar, a recordio sain gan amrywiaeth o wahanol ffynonellau.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n recordio cynnwys sain ar leoliad neu mewn stiwdio yn y diwydiannau radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis meicroffonau priodol ar gyfer yr amodau dan sylw neu fanteisio ar nodweddion penodol meicroffonau unigol wrth recordio
  2. gwirio’r lefelau recordio a monitro mewnbynnau er mwyn sicrhau bod uchder y sain yn briodol
  3. recordio sain ar y cyfrwng a’r ffurf briodol
  4. dewis a dethol beth i’w recordio, gan ddwyn i ystyriaeth faint o gynnwys gwreiddiol a recordiwyd sy‘n debygol o gael ei ddefnyddio yn y cynnyrch terfynol
  5. sicrhau fod gennych chi ddigon o gynnwys sain ar gyfer y broses olygu gan ddwyn i ystyriaeth unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod y broses recordio
  6. asesu lleoliad o ran ei addasrwydd, ac os yn briodol rhoi trefniadau ar waith i leihau problemau sŵn ymwthiol neu annisgwyl
  7. adnabod unrhyw ddiffygion yn y sain, methiannau yn y system, neu fethiannau mecanyddol, eu cywiro pan fo’n bosibl neu geisio cymorth
  8. enwi a labelu cynnwys sain yn unol â’r protocolau, a’u cadw a’u storio’n ddiogel
  9. sicrhau nad ydy eich gweithredoedd yn achosi perygl diogelwch i eraill
  10. cwblhau’r recordiad ymhen y graddfeydd amser penodedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. egwyddorion sylfaenol sain ac acwsteg
  2. y mathau o feicroffonau a’u nodweddion
  3. y cyfyngiadau allweddol wrth recordio cynnwys sain
  4. y nodweddion gweithredol ynghlwm â’r cyfarpar recordio a chyfyngiadau’r cyfarpar sydd ar gael i chi
  5. y gwahaniaeth rhwng rheoli lefel awtomatig a gyda llaw a’u goblygiadau mewn gwahanol sefyllfaoedd
  6. sut i brofi a gwirio cyfarpar
  7. sut i adnabod problemau gyda’r cyfarpar recordio, a beth i’w wneud i’w hunioni
  8. nodweddion acwstig unrhyw stiwdio neu leoliad sydd i’w defnyddio
  9. y problemau sy’n gysylltiedig gyda sŵn gwynt, synau annisgwyl a sŵn amgylchol ar leoliad
  10. yr ystyriaethau sydd ynghlwm â recordio sain o wahanol ffynonellau megis cyfweliadau, perfformiadau byw, sain wirioneddol neu o’r awyrgylch o’ch cwmpas
  11. goblygiadau recordio cynnwys i’w olygu neu ei recordio ar gyfer ddarllediad fel-byw
  12. y math a’r amrywiaeth o gynnwys sydd angen i chi ei recordio i hwyluso’r gwaith golygu
  13. y protocolau perthnasol ar gyfer labelu a storio cynnwys sain
  14. y raddfa amser a’r terfynau amser ar gyfer y recordiad
  15. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, y rheoliadau a’r gofynion sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSRAC14

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Cynhyrchu, Rheolwyr Stiwdio, Rheolwr Gorsaf, Cyflwynydd Radio, Cynhyrchydd Technegol, Cynorthwyydd Darlledu, Cynhyrchydd Cynorthwyol, Cynhyrchydd, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd Drama, Cynhyrchydd Comedi, Cynhyrchydd Rhaglenni Dogfen, Cynhyrchydd Podlediadau, Cynhyrchydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

recordio; sain; cynnwys; cyfarpar; lleoliad; stiwdio; cyfarpar recordio;