Creu celfi effeithiau arbennig ffisegol

URN: SKSPSFX9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â chreu celfi i’w defnyddio mewn effeithiau arbennig ffisegol.
 
Bydd gofyn ichi ymchwilio i unrhyw ddyluniadau, cadw o fewn cyfnod y dyluniad ac unrhyw baramedrau eraill o ddilysrwydd sydd wedi’u pennu gan y cynhyrchiad. Bydd hefyd yn gofyn am wybodaeth am ddeunyddiau mae modd eu defnyddio, fel atgynyrchiadau bwydydd, celfi meddal, celfi hanesyddol a modelau gwyddonol.
 
Bydd angen ichi nodi deunyddiau a gofynion adeiladu, dod o hyd i ddeunyddiau a chreu celfi sy’n cwrdd â’r gofynion. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen ichi ddeall egwyddorion mowldio, cerflunio a cherfio. Bydd hefyd angen ichi ddangos gwybodaeth o weithio gydag ystod eang o ddeunyddiau gan gynnwys plastr, GRP, resin, rwber, polystyren a sbwng a gallu cymhwyso’r technegau mowldio, cerflunio a cherfio priodol i’r rhain.
 
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n creu celfi effeithiau arbennig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu celfi effeithiau arbennig sy’n cwrdd â gofynion y brîff, cyllideb a’r cynhyrchiad
  2. nodi deunyddiau a gofynion adeiladu, gan gynnwys eu cynyddu neu eu lleihau er mwyn cwrdd â’r gofynion
  3. dod o hyd i’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y celfi gaiff eu cynhyrchu
  4. darparu dogfennaeth sy’n manylu ar y deunyddiau, y cydrannau a’r technegau gaiff eu defnyddio i gynhyrchu celfi i’r bobl berthnasol
  5. creu celfi yn unol â ffotograffau, darluniau, brasluniau neu ddelweddiadau gaiff eu darparu
  6. paratoi fframweithiau sy’n addas i’w modelu
  7. creu modelau a brasluniau 3D ar raddfa addas ac o ddeunyddiau addas i brofi’r dyluniadau
  8. cynhyrchu cynhyrchion maint llawn sy’n ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen o ganlyniad i brofion
  9. dod o hyd i a defnyddio celfi toradwy i gwrdd â gofynion y cynhyrchiad
  10. cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg
  11. cyflawni'ch gwaith yn unol â gofynion iechyd a diogelwch, gan ddilyn camau gweithredu os na fydd eraill yn dilyn gofynion diogelwch
  12. cynnal diogelwch y cast a’r criw
  13. darparu dewisiadau eraill o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad os nad oes modd cynhyrchu celfi i’r dyluniad neu gyllideb gwreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ymchwilio i wybodaeth ffynhonnell ddigonol i greu celfi effeithiau arbennig ffisegol
  2. defnydd darluniadau, brasluniau, ffotograffau a delweddau wrth fanylu ar ddeunyddiau a gofynion adeiladu a sut i’w cynhyrchu
  3. dadansoddiad sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer celfi effeithiau arbennig ffisegol
  4. y gwahanol ddeunyddiau a thechnegau gaiff eu defnyddio wrth fodelu a cherflunio ar gyfer celfi effeithiau arbennig byw, a sut mae modd eu defnyddio ar y cyd er mwyn mowldio a chastio
  5. egwyddorion modelu, castio a mowldio o ddarnau gwreiddiol
  6. sut i greu patrymau o gelfi gwreiddiol
  7. sut i ddod o hyd i a defnyddio celfi toradwy i greu effeithiau fel gwrthrychau sydd wedi torri
  8. sut caiff mecanweithiau mewnol gaiff eu defnyddio mewn modelau neu gelfi eu defnyddio i greu effeithiau
  9. anatomeg ddynol ac anifeiliaid
  10. technegau a deunyddiau castio byw a’r ystyriaethau diogelwch sydd ynghlwm
  11. y broses ddylunio, yn bennaf sut i drosi cyfeirnod 2D yn wrthrych 3D
  12. sut mae animatroneg yn gweithio ar y cyd â’r broses fodelu
  13. y gwahanol fathau o ddymis i’w defnyddio; rhai difywyd, rhai sy’n gallu symud, rhai oedolion, babis, plant ac anifeiliaid
  14. egwyddorion gosod gwallt a’r gorffeniad
  15. egwyddorion gorffeniad gwaith paentio neu liwio
  16. sut i gynhyrchu fframwaith i gefnogi ffurf o fodel gan ddefnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r dasg
  17. pa adrannau sydd angen cyswllt rheolaidd i sicrhau y caiff modelau a chelfi eu defnyddio yn effeithiol ac yn ddiogel
  18. y dulliau o raddio celfi presennol i greu modelau mwy/llai
  19. beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effaith benodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPSFX9

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig, Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

effeithiau arbennig ffisegol; effeithiau; dylunio; cynllunio; celfi; castio; mowldio; dadansoddiad sgript; cyllideb; cynhyrchiad; 2D; 3D;