Goruchwylio, cyfarwyddo a hyfforddi’r cast a'r criw ar sut i ddefnyddio celfi mewn cynyrchiadau
URN: SKSPRP8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfarwyddo a hyfforddi'r cast a chriw ar sut i ddefnyddio celfi mewn cynyrchiadau.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth am ddefnydd celfi a dangos a monitro sut mae defnyddio'r celfi lle bo'n briodol.
Gall celfi fod yn rhai sydd wedi'u llogi neu rai sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn rhain i gyd. Gallant gynnwys celfi fel offer paratoi bwyd arbenigol, offer trydanol, cyfrifiaduron a ffonau symudol.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi a Meistr Celfi wrth Gefn ac Arolygwr Celfi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trefnu amser gyda'r cast a'r criw i roi hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r celfi
- egluro nodweddion a dull gweithredu'r holl gelfi
- dangos i'r cast a chriw sut i weithio a defnyddio'r celfi
- rhoi cyfleoedd i'r cast a'r criw ofyn cwestiynau a cheisio eglurder ar sut i ddefnyddio'r celfi
- goruchwylio a chywiro'r cast a'r criw wrth ddefnyddio'r celfi
- rhoi gwybod i'r holl aelodau staff perthnasol pan fydd perfformwyr yn defnyddio celfi mewn modd sy'n debygol o achosi difrod neu berygl
- gwirio bod celfi'n gweithio'n iawn cyn bod ffilmio yn dechrau
- cofnodi'r angen am gysondeb golygfeydd gyda'r defnydd o gelfi
- mewn cysylltiad ag adrannau eraill, casglu'r celfi gan y cast a'r criw cyn iddynt adael y set
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwahanol fathau o gelfi, eu nodweddion a'u dulliau gweithredu
- pwysigrwydd egluro a dangos sut mae defnyddio'r celfi
- sut i gynllunio a chyflwyno hyfforddiant priodol ar sut i ddefnyddio celfi ac offer
- sut i hyfforddi'r cast a'r criw ar ddefnyddio celfi yn ddiogel
- sut i roi gwybod i adrannau eraill am ofynion defnyddio celfi yn ddiogel
- sut i ddelio gydag anawsterau a pheryglon sy'n gysylltiedig â rhai celfi
- pa gamau i'w dilyn pan gaiff celfi eu trin yn anghywir a heb ystyriaeth briodol i ddiogelwch
- sut i brofi effeithiolrwydd gweithrediad celfi a beth i'w wneud pan nad ydynt yn addas i'r diben
- sut i atgyweirio celfi a pha gamau i'w dilyn pan na fydd modd atgyweirio o fewn yr amserlen gynhyrchu
- sut i gynnal cofnodion cysondeb golygfeydd a chofnodi dosbarthiad pob celficyn ar gyfer pob golygfa
- y ddeddfwriaeth, y rheoiadau a’r protocolau iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP8
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; arolygwr celfi, goruchwylio; cyfarwyddo; hyfforddi; cynyrchiadau; cast a'r criw;