Caffael deunyddiau ac eitemau ar gyfer gwisgo setiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno ar ba ddeunyddiau ac eitemau sy'n bodloni'r gofynion gwisgo setiau ac yna caffael y deunyddiau a'r eitemau hynny.
Mae'n ymwneud â dadansoddi gofynion gwisgo setiau a gwybodaeth arall am yr arddull weledol sy'n ofynnol i adnabod y deunyddiau mwyaf addas. Mae'n ymwneud â pharatoi cynigion ar gyfer caffael y deunyddiau, cytuno ar y rheiny gyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau a pharatoi manylebau manwl ar gyfer cyflenwyr neu wneuthurwyr gorchuddion setiau.
Mae'n ymwneud â monitro cynnydd y cyflenwyr i ragweld problemau a bodloni terfynau amser y cynhyrchiad. Yn olaf, mae'n ymwneud â llunio dogfennau a sicrhau eu bod ar gael i'r bobl berthnasol.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel prynwyr Cynyrchiadau neu gyfarwyddwr Celf Cynorthwyol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis y mathau o ddeunyddiau ac eitemau sy'n bodloni'r arddull weledol sy'n ofynnol gan gadw at y gyllideb hefyd
- ystyried effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd deunyddiau ac eitemau sydd wedi'u dewis a'u defnyddio
- hysbysu’r sawl sy’n gwneud y penderfyniadau pan fo disgwyl i'r gofynion fod yn uwch na'r gyllideb
- llunio manylebau deunyddiau ac eitemau ar gyfer cyflenwyr a gwneuthurwyr i fodloni'r gofynion
- cyflwyno cynigion ar gyfer deunyddiau ac eitemau i wneuthurwyr penderfyniadau a chofnodi'r cytundebau a'r penderfyniadau
- briffio'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr dewisol am y gofynion
- gwirio cynnydd y deunyddiau a'r eitemau gyda'r cyflenwyr er mwyn bodloni'r terfynau amser o ran dosbarthu
- asesu a oes gorchuddion setiau parod ar gael a threfnu i'w prynu a'u derbyn yn brydlon er mwyn bodloni terfynau amser y cynhyrchiad
- gwirio a chadarnhau'r deunyddiau a'r eitemau sydd wedi'u derbyn o gymharu â'r manylebau y cytunwyd arnyn nhw
- awgrymu opsiynau eraill i wneuthurwyr penderfyniadau pan nad yw'n bosibl bodloni'r gofynion o ran y cyllidebau a'r terfynau amser
- mynd i'r afael â'r problemau a'r trafferthion gyda'r cyflenwad i fodloni terfynau amser y cynhyrchiad
- cydweithio gyda chyflenwyr i fodloni terfynau amser y cynhyrchiad
- llunio a storio cofnodion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i bennu'r gofynion o ran y deunyddiau, yr eitemau a gwisgo setiau i fodloni'r brîff dylunio
- ffynonellau gwybodaeth am yr arddull weledol
- y dulliau ar gyfer pennu'r math a'r nifer o ddeunyddiau ac eitemau sydd eu hangen
- pwy yw'r gwneuthurwyr penderfyniadau perthnasol
- sut i baratoi manylebau deunyddiau ac eitemau
- sut i gyflwyno cynigion i wneuthurwyr penderfyniadau
- y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cofnodi cytundebau a briffio cyflenwyr a gwneuthurwyr
- yr amseroedd arwain gofynnol gan gyflenwyr
- sut i gadarnhau a yw'r deunyddiau a'r eitemau ar gael
- y mathau o broblemau cyflenwi a'r ffyrdd o fynd i'r afael â nhw
- goblygiadau cyfreithiol a chytundebol cyflenwyr a chwsmeriaid ar gyfer cyflenwi deunyddiau ac eitemau