Gwerthuso ac argymell newidiadau i bolisïau a phrosesau agosatrwydd i wella cynyrchiadau

URN: SKSIC9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cwmpasu gwerthuso ac argymell newidiadau i bolisïau a phrosesau gaiff eu defnyddio ar gyfer creu cynnwys agos mewn cynyrchiadau. Efallai y bydd y cynhyrchiad yn gofyn am y gwerthusiad yn ffurfiol neu yn ei rannu fel arfer gorau o fewn y gymuned o gydlynwyr agosatrwydd. 

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod yr arfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol. 

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau, polisïau a phrosesau agosatrwydd mewn cynyrchiadau wrth gyflawni eu pwrpas arfaethedig
  2. cefnogi’r cynhyrchiad gyda gwerthuso polisïau a phrosesau agosatrwydd i adnabod problemau posibl gyda chreu cynnwys agos
  3. dod â materion ynghylch gweithredu cynlluniau, polisïau a phrosesau agosatrwydd i sylw’r tîm cynhyrchu a’r perfformwyr yn ôl yr angen
  4. datblygu argymhellion clir ar gyfer gwella cynlluniau, polisïau a phrosesau agosatrwydd sy’n taro’r cydbwysedd gorau rhwng y cyflawniadau a wnaed ac unrhyw ddiffygion nodedig
  5. gwneud argymhellion mewn fformat addas ac ar yr adeg briodol
  6. cynnig y cymorth priodol i ddatrys y sefyllfa pan fydd unigolion yn camddehongli neu’n ymholi’r wybodaeth a ddarperir
  7. rhannu eich canfyddiadau a’ch argymhellion gyda chydweithwyr proffesiynol ym maes agosatrwydd i wella ymarfer cydlynu agosatrwydd yn unol â deddfwriaeth diogelu data a chytundebau peidio â datgelu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cytuno ar gynlluniau, polisïau a phrosesau agosatrwydd mewn cynhyrchiad
  2. y prosesau gwerthuso ar gyfer agosatrwydd mewn cynyrchiadau
  3. sut i gymhwyso sgiliau trafod a dylanwadu
  4. y cysyniad o bolisi a phroses, datblygu, gweithredu a gwerthuso
  5. sut i werthuso’r cynlluniau a’r prosesau agosatrwydd gaiff eu defnyddio
  6. sut i gyflwyno gwybodaeth ac argymhellion sy’n dal diddordebau pobl a’u hannog i weithredu
  7. sut i ddatblygu argymhellion sy’n taro’r cydbwysedd gorau rhwng y gwahanol ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried
  8. sut i gyflwyno argymhellion ar gyfer cydlynu agosatrwydd mewn ffurfiau sy’n addas i’r gynulleidfa sydd i’w defnyddio
  9. y berthynas rhwng cynnig cefnogaeth ac adnabod materion a phroblemau gyda chydlynu agosatrwydd
  10. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau cynhyrchu penodol sy’n ymwneud â’r gwaith sy’n cael ei wneud ac effaith y rhain ar y gwaith
  11. y codau ymarfer a’r protocolau ynghylch cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth rhwng cydlynwyr agosatrwydd sy’n gweithio mewn partneriaeth
  12. sut i gofnodi argymhellion ar gyfer gwelliannau yn unol â deddfwriaeth diogelu data a gofynion cynhyrchu gan gynnwys cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC9

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;