Monitro creu cynnwys agos yn ystod cynhyrchiad
URN: SKSIC8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda’r perfformwyr, y criw a’r tîm cynhyrchu i fonitro y caiff cynnwys agos ei greu yn y modd y cytunwyd arno. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cynnal llinellau cyfathrebu gyda’r perfformwyr, y criw a’r tîm cynhyrchu a darparu cefnogaeth a chyngor ar agosatrwydd naill ai o bell neu yn bersonol.
Bydd angen ichi gysylltu gyda’r tîm cynhyrchu a phenaethiaid adran i wirio bod yr adnoddau sydd eu hangen wedi’u darparu ac y caiff unrhyw newidiadau i’r cynhyrchiad eu hysbysu ac y caiff yr effaith ar weithredoedd agos ei hasesu.
Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal llinellau cyfathrebu gyda pherfformwyr sy’n ymgymryd â gwaith creu cynnwys agos
- cynnal llinellau cyfathrebu cytunedig gyda’r tîm cynhyrchu
- annog y tîm cynhyrchu i gynnal ymweliadau set i fonitro a chefnogi’r perfformwyr a’r criw
- monitro’r amserlen gynhyrchu ac ymateb i unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar greu cynnwys agos cytunedig
- darparu cefnogaeth a chyngor i berfformwyr a’r criw os oes newidiadau i’r cynhyrchiad a allai effeithio ar y cynnwys agos sydd ei angen
- asesu’r newidiadau a darparu argymhellion ar risgiau posibl i berfformwyr a’r criw
- gwirio a chadarnhau cydsyniad perfformwyr ar gyfer diwygiadau i weithredoedd agos
- awgrymu gwelliannau neu ddewisiadau amgen os nad yw’r perfformwyr yn fodlon cydsynio i’r newidiadau
- hwyluso trafodaethau rhwng perfformwyr a’r cynhyrchiad i ddod o hyd i ateb os bydd problemau’n codi
- cytuno ar yr amserlen, yr amser a’r lleoliad i adolygu’r cynnwys agos sydd wedi’i greu
- adolygu’r cynnwys agos er mwyn gwirio ei fod yn cydymffurfio gyda chytundebau cydsynio
- asesu’r cynnwys agos sydd wedi’i ddarparu yn erbyn y safonau artistig a thechnegol cytunedig
- darparu cymorth ac arweiniad i berfformwyr os yw’r cynnwys yn gwyro oddi wrth y paramedrau cytunedig
- cefnogi a chynghori ar gydsyniad a threfniadau cytundebol
- cadw cofnodion agosatrwydd a chofnodion cydsynio yn unol â deddfwriaeth diogelu data, polisïau cynhyrchu a chytundebau cytundebol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynnal llinellau cyfathrebu gyda pherfformwyr sy’n ymgymryd â gwaith creu cynnwys agos
- sut i gynnal llinellau cyfathrebu cytunedig gyda’r tîm cynhyrchu
- sut i annog y tîm cynhyrchu i gynnal ymweliadau set i fonitro a chefnogi’r perfformwyr a’r criw
- sut i fonitro’r amserlen gynhyrchu ac ymateb i unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar gytundebau a chontractau cydsynio
- adnoddau sydd eu hangen i fodloni gofynion agosatrwydd, gan gynnwys offer arbenigol a chefnogaeth broffesiynol
- rôl adrannau eraill, yn enwedig Lleoliad, Gwisgoedd, Propiau, Camera, Gwallt a Cholur, Effeithiau Arbennig Corfforol a Gweledol a sut i weithio ar y cyd gyda’r rhain
- yr amser a’r lle mwyaf addas i adolygu’r cynnwys agos sydd wedi’i greu
- sut mae’r gynulleidfa yn edrych ar gynnwys ac yn mewnoli gwybodaeth weledol a sain
- sut i adolygu’r cynnwys agos er mwyn gwirio ei fod yn cydymffurfio â chytundebau cydsynio
- sut i asesu a chyfathrebu â chydweithwyr os nad yw’r cynnwys agos yn cwrdd â’r weledgiaeth greadigol
- technegau ac offer ar gyfer trin gwaith ffilmio a golygfeydd gan gynnwys fframio a masgio
- sut a phwy i roi gwybod am unrhyw doriadau i gytundebau cydsynio
- sut a phryd i gefnogi perfformwyr gyda thoriadau cytundebau cydsynio
- sut a phryd i drafod newidiadau posibl i gytundebau cydsynio gyda pherfformwyr a’r tîm cynhyrchu
- i bwy ddylid rhoi gwybod am broblemau neu anawsterau wrth iddynt godi
- yr arc parhaus o ofal yn ystod ôl-gynhyrchu yn ôl yr angen
- deddfwriaeth diogelu data a pholisïau cynhyrchu ar gyfer storio asedau a chofnodion
- y ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n ymwneud â chydsyniad ac atodiad agosatrwydd ar gyfer cynyrchiadau
Cwmpas/ystod
Noethni a chynnwys agos
- Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
- Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
- Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
- Cyflwr dadwisgo
- Noethni ymhlyg
- Rhyw wedi’i efelychu
- Rhyw ymhlyg
- Corff dwbl
- Noethni digidol
- Cusanu
Adnoddau
- Dillad gweddus
- Merkin neu wig blew cedor
- Rhwystrau
- Gwallt, colur a phrosthetig
- Propiau
- Goleuadau neu offer arbenigol
Dogfennaeth IC
- Asesiad risg agosatrwydd
- Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
- Nodiadau coreograffi
- Nodiadau lefel cydsyniad
- Memos y cast a’r criw
- Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
- Adroddiadau dilynol
- Adroddiadau cloi ‘wrap’
- Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)
Cymorth proffesiynol
- Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
- Hwylusydd lles
- Meddyg
- Cydlynydd styntiau
- Bydwraig ymgynghorol
- Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
- Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
- Ymgynghorydd diwylliannol
- Ymgynghorydd hanesyddol
- Hebryngwyr/Gwarchodwyr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSIC8
Galwedigaethau Perthnasol
Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;