Darparu cefnogaeth i berfformwyr, y cast a’r criw a rhai sy’n cyfrannu yn ystod cynnwys agos

URN: SKSIC7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi perfformwyr wrth greu cynnwys agos a nodi unrhyw faterion a allai effeithio ar y perfformiwr a’u caniatâd parhaus i greu cynnwys agos. 

Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â gwirio a chadarnhau bod y cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu yn deall eu rôl a’u rhan wrth greu cynnwys agos mewn cynhyrchiad a darparu cefnogaeth iddynt.

Bydd hyn yn cynnwys nodi unrhyw faterion a allai godi i’r rhai nad ydynt yn perfformio, monitro ymddygiad ar y set ac adrodd am unrhyw broblemau gyda hyn. 

Bydd hefyd yn cynnwys cadarnhau adnoddau, gan gynnwys deunyddiau a chefnogaeth broffesiynol a allai fod eu hangen er mwyn gallu creu cynnwys agos.

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio gyda phob perfformiwr cyn mynd ar y set i sicrhau bod ffiniau mewn lle a’u bod yn cydsynio
  2. asesu a allai fod angen unrhyw gymorth proffesiynol arall a gofyn am hyn
  3. briffio’r cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer cynnwys agos
  4. gwirio a chadarnhau bod y cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu yn deall eu rôl o fewn y broses o greu cynnwys agos
  5. trafod gyda’r tîm cynhyrchu ar ran aelodau’r cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu os nad ydynt eisiau bod yn bresennol wrth greu cynnwys
  6. cadarnhau y caiff yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer creu cynnwys agos eu paratoi a’u bod ar y set
  7. cadarnhau paramedrau ar gyfer agosatrwydd gyda pherfformwyr ar y set
  8. cadarnhau’r caniatâd y cytunwyd arno a’r lefel o agosatrwydd i’w bortreadu
  9. cadarnhau a chyfathrebu bod protocolau set gaeedig ar waith
  10. gwirio bod perfformwyr wedi paratoi ac yn barod i fwrw ymlaen gyda chreu cynnwys agos
  11. darparu cefnogaeth ac arweiniad i berfformwyr ar symudiad a pherfformiad corfforol
  12. awgrymu ffyrdd eraill o gwrdd â’r brîff creadigol a chynnal lefelau cydsynio’r perfformwyr yr un pryd
  13. monitro ymddygiad y cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu ar y set yn ystod golygfeydd lle caiff cynnwys agos ei greu ac ymateb i unrhyw bryderon gaiff eu hadrodd yn ôl yr angen
  14. cydlynu bod y cast yn cael eu gorchuddio neu eu gwisgo rhwng ffilmio golygfeydd yn ôl yr angen
  15. cynnal protocolau set gaeedig a gwiriadau cydsynio trwy gydol y perfformiad
  16. cynnig a gweithredu dewisiadau dad-bortreadu addas ar gyfer y cast a’r criw yn ôl yr angen
  17. cynnal cofnodion cytuno a chydsynio yn unol â deddfwriaeth diogelu data a pholisïau cynhyrchu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i drafod gofynion agosatrwydd gyda pherfformwyr
  2. sut i gadarnhau’r lefelau noethni a nodwyd ac y cytunwyd arnynt
  3. sut i nodi a chytuno ar yr adnoddau a’r cymorth a allai fod eu hangen o fewn amserlenni
  4. sut i gyflwyno cynlluniau agosatrwydd i’r cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu
  5. sut i gadarnhau bod y cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu yn deall y cynnwys agos sydd i’w greu
  6. sut i drafod gyda’r cynhyrchiad os nad yw aelodau’r cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu eisiau bod yn bresennol wrth greu cynnwys
  7. elfennau cydsynio, sut cânt eu cyflwyno a sut maent yn ymwneud â chreu cynnwys agos
  8. sut y gall deinameg pŵer sy’n bresennol wrth greu cynnwys agos effeithio ar allu perfformwyr i gydsynio
  9. sut i fonitro ymddygiad y cast, y criw a’r rhai sy’n cyfrannu ar set, ymateb i unrhyw bryderon ac adrodd am unrhyw broblemau
  10. beth yw cydsyniad parhaus a sut i’w gynnal
  11. sut i gefnogi a dylunio symudiad agos
  12. sut i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad parhaus i berfformwyr ar y set
  13. sut i greu a chynnal dogfennaeth gan gynnwys agosatrwydd dogfennaeth
  14. pwysigrwydd setiau caeedig ar gyfer creu cynnwys agos
  15. pwysigrwydd cydymffurfio â deddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau cynhyrchu

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC7

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;