Dylunio a chynghori ar weithredoedd agos i berfformwyr mewn cynyrchiadau

URN: SKSIC6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dylunio a chynghori ar weithredoedd a symudiadau agos yn ystod golygfeydd o agosatrwydd mewn cynhyrchiad. 

Bydd yn cynnwys adnabod a chydweithio â Phenaethiaid Adran allweddol a’r Cyfarwyddwr, ynghylch y defnydd o agosatrwydd yn y cynhyrchiad a sut y caiff hyn ei  gyflawni a’i wireddu.

Bydd hefyd yn cynnwys paratoi symudiadau perfformwyr yn ystod gweithdai, nodi pwyntiau angori ac ystum y corff. Bydd disgwyl ichi gynghori ac arwain perfformwyr a’r criw ar sut i berfformio yn ystod golygfeydd agos wrth weithio gyda nodweddion y sgript a chydymffurfio â deddfwriaeth a phrotocolau a chytundebau cydsynio. 

Mae’r safon hon ar gyfer Cydlynwyr Agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dylunio’r symudiad a’r coreograffi i fodloni’r cynnwys agos sy’n ofynnol yn unol â chytundebau a pharamedrau cydsynio
  2. creu golygfeydd agos sy’n cefnogi gweledigaeth greadigol y Cyfarwyddwr a chadw at ffiniau’r perfformwyr
  3. cyfathrebu canllawiau agosatrwydd i berfformwyr a’r criw
  4. cyfathrebu coreograffi’r olygfa i’r staff perthnasol
  5. cyfleu gweledigaeth greadigol y cyfarwyddwr i’r perfformwyr a sut y gellir ei chyflawni
  6. rhoi arweiniad a chyngor ar elfennau allweddol o symudiad a choreograffi
  7. cydweithio â, a chefnogi perfformwyr i gwrdd â’r elfennau adrodd straeon corfforol
  8. gwirio bod y deunyddiau sydd eu hangen i gynorthwyo gydag agosatrwydd yn addas i’r diben ac mewn cyflwr priodol i’w defnyddio ac yn cydymffurfio â safonau
  9. paratoi’r cast a’r criw ar gyfer cyflawni’r gweithredoedd agos
  10. gwirio a chadarnhau lefelau cydsyniad parhaus yn ôl yr angen
  11. awgrymu gwelliannau neu ddewisiadau amgen os nad yw’r cydsyniad gwreiddiol yn ymarferol
  12. monitro ymatebion y perfformwyr a’r criw i’r gweithredoedd agos a darparu seibiannau yn ôl yr angen
  13. cadarnhau gyda’r tîm cynhyrchu bod modd bodloni’r gofynion agosatrwydd
  14. darparu cofnodion o weithredoedd a diweddaru’r cynllun agosatrwydd a’r risgiau ar gyfer y cynhyrchiad
  15. cadw cofnodion o bob cytundeb a chydsyniad yn unol â deddfwriaeth diogelu data a pholisïau cynhyrchu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cyfathrebu ac eiriolaeth agored i sicrhau cydsyniad parhaus
  2. sut i gysylltu gyda Phenaethiaid Adrannau, perfformwyr a’r criw ynghylch cytundebau a pharamedrau cydsynio
  3. egwyddorion anatomi a symudiad
  4. elfennau allweddol symudiad fel anadl, sain lleisiol, pwysau, amser a gofod i greu coreograffi agos
  5. sut i gyfleu symudiad i berfformwyr ac addasu iaith i ddiwallu eu hanghenion
  6. pwysigrwydd protocolau set caeedig neu gyfyngedig yn eu lle a’u cynnal ar y set
  7. sut i gynorthwyo gyda choreograffi a dilyniant yr olygfa yn ôl dadansoddiad y sgript a gofynion cynhyrchu
  8. y broses actor cyfarwyddwr wrth greu golygfeydd agos
  9. sut i hwyluso gweithredoedd personol gan gynnwys profion camera
  10. y broses o baratoi deunyddiau i’w defnyddio ar gyfer creu cynnwys agos
  11. y broses o baratoi perfformwyr a’r criw ar gyfer gweithredoedd agos
  12. pwysigrwydd paratoi’r actor corff dwbl ac actorion wrth gefn
  13. sut i gysylltu’r agosatrwydd â’r weithred yn yr olygfa
  14. pwysigrwydd defnyddio ymarferion cynhesu a chloi
  15. y ddeddfwriaeth, y polisïau a’r protocolau sy’n ymwneud ag agosatrwydd gan gynnwys cydsyniad
  16. pwy i’w hysbysu am broblemau neu anawsterau posibl ar gyfer y cynhyrchiad
  17. yr adroddiadau a’r diweddariadau i gynlluniau a thracwyr agosatrwydd sy’n ofynnol yn ystod y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC6

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;