Cysylltu gydag adrannau i sicrhau bod adnoddau mewn lle ar gyfer gweithredoedd agos

URN: SKSIC5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chysylltu gydag adrannau i sicrhau y caiff adnoddau eu darparu er mwyn galluogi i’r gweithredoedd agos ddigwydd yn unol â’r gofynion cynhyrchu a’r amserlenni cytunedig. 

Gall hyn gynnwys gofyn am eitemau o adrannau gan gynnwys gwisgoedd, gwallt, colur a phrosthetig, propiau a gwisgo set. 

Mae hefyd yn ymwneud â gwirio eu bod yn bodloni’r gofynion sydd wedi’u nodi yn yr atodiad a bod y perfformwyr yn gyfforddus yn eu defnyddio.

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu gwybodaeth o’r brîff cynhyrchu sy’n ymwneud ag agosatrwydd a allai effeithio ar amserlennu, cyllidebu a dylunio
  2. adnabod a chytuno o ble daw’r adnoddau gydag arweinwyr adrannau
  3. dod o hyd i a darparu offer arbenigol yn ôl yr angen
  4. cadarnhau gydag adrannau bod adnoddau wedi’u paratoi ac yn barod i’w defnyddio ar set
  5. cynghori perfformwyr ar sut i ddefnyddio adnoddau yn ystod gweithredoedd agos
  6. gwirio bod y perfformwyr yn gyfforddus yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael
  7. awgrymu a chytuno ar ddewisiadau amgen posibl gyda’r tîm cynhyrchu pan fydd gweithredoedd agosatrwydd yn newid
  8. cytuno ar brotocolau gwaredu ar gyfer eitemau sydd wedi cael eu defnyddio yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gofynion cynaliadwyedd a gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod ffactorau agosatrwydd gan gynnwys: gwresogi, oeri, amgylchedd, goleuadau, cyswllt corfforol a gofod personol
  2. pwysigrwydd cydsyniad a chofnodi cytundebau yn ymwneud â goblygiadau agosatrwydd i gydweithwyr yn y tîm creadigol a’r criw
  3. dulliau o ddod o hyd i a defnyddio adnoddau ar set
  4. sut i gynghori perfformwyr ar ddefnyddio adnoddau ar gyfer gweithredoedd agos
  5. gofynion gwahanol fathau o adnoddau agosatrwydd fel rhwystrau, gorchuddion organau cenhedlu, gwisgoedd, gwallt, colur a phrosthetig, propiau, goleuadau neu offer arbenigol
  6. dulliau storio a gwaredu glân a chynaliadwy ar gyfer eitemau bioberyglus
  7. pwysigrwydd cydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau cynhyrchu
  8. pwysigrwydd gwirio ffactorau teimlo’n gyfforddus gyda pherfformwyr yn ystod ffilmio

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC5

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;