Pennu gofynion cynhyrchu ar gyfer agosatrwydd

URN: SKSIC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â phennu’r gofynion cynhyrchu ar gyfer cynnwys agos ar mewn cynhyrchiad er mwyn bodloni’r brîff unwaith y bydd y cynhyrchiad wedi dechrau. 

Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â nodi’r ffactorau a all effeithio ar gynnydd creu cynnwys agos, gan gynnwys cyfathrebu, cytuno ar flaenoriaethau ac adnoddau sy’n ymwneud â golygfeydd, lleoliadau ac amserlenni ffilmio. 

Mae hefyd yn cynnwys argymell adnoddau, gan gynnwys deunyddiau a chefnogaeth broffesiynol a allai fod eu hangen er mwyn cyflawni’r gweithredoedd agos.

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu a chofnodi gwybodaeth allweddol o’r brîff cynhyrchu sy’n ymwneud ag amserlennu, lleoliad, amgylchedd a dylunio a’i effaith ar y cyswllt agos arfaethedig
  2. asesu’r lefelau risg ar gyfer gweithredoedd agos ym mhob golygfa
  3. paratoi dull asesu risg (RAMS) a strategaeth liniaru ar gyfer creu cynnwys agos
  4. adnabod adnoddau, deunyddiau a chymorth proffesiynol a allai fod eu hangen
  5. cyfathrebu gyda phenaethiaid yr adran a’r tîm cynhyrchu i gadarnhau’r adnoddau a’r deunyddiau sydd eu hangen
  6. ceisio eglurhad gyda’r tîm cynhyrchu pan fo gwybodaeth am y cynhyrchiad yn anghyflawn neu’n aneglur
  7. awgrymu a chytuno ar ddewisiadau amgen i’r cynnwys agos gyda’r tîm cynhyrchu pan fydd y cynnwys agos yn newid
  8. cadw cofnodion o’r camau a gymerwyd a’r ceisiadau a wnaed i’r cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deall, dehongli ac ymateb i ddogfennau’r cynhyrchiad gan gynnwys mathau o amserlenni, diwygiadau sgript, taflenni galwadau a gorchmynion trafnidiaeth
  2. sut i adnabod ffactorau sy’n effeithio ar greu cynnwys agos gan gynnwys: gwresogi, oeri, amgylchedd, goleuadau, paramedrau cytunedig y perfformwyr dan sylw
  3. y lefelau noethni a nodwyd ac y cytunwyd arnynt
  4. sut i greu a chynnal dogfennaeth gan gynnwys dogfennaeth agosatrwydd
  5. goblygiadau agosatrwydd i gydweithwyr yn y tîm creadigol a’r criw
  6. sut i adnabod, amcangyfrif ac amserlennu gofynion ac adnoddau cynhyrchu gan gynnwys costau lle bo angen
  7. dulliau o gael a defnyddio adnoddau a gofnodwyd yn y traciwr agosatrwydd, sgript a dadansoddiad golygfa
  8. sut i gytuno ar yr adnoddau sydd eu hangen gyda’r bobl berthnasol o fewn yr amserlenni i ganiatáu i’ch cynlluniau ddigwydd
  9. y berthynas rhwng, ac arwyddocâd, amserlen golygfeydd a threfn ffilmio
  10. gofynion gwahanol fathau o adnoddau fel rhwystrau, gorchuddion organau cenhedlu, gwisgoedd, gwallt, colur a phrosthetig, propiau, goleuadau neu offer arbenigol
  11. pwysigrwydd cydymffurfio â deddfwriaeth, rheoliadau, gofynion undeb, polisïau diogelu a chynhyrchu

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC3

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;