Cysylltu gyda pherfformwyr wrth gynllunio agosatrwydd

URN: SKSIC2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chysylltu gyda pherfformwyr yn ystod gwaith cynllunio agosatrwydd ac adnabod lefelau agosatrwydd a chydsynio sy’n ofynnol ar gyfer creu cynnwys agos mewn cynhyrchiad.

Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud ag adnabod y ffactorau i’w hystyried wrth hwyluso’r trafodaethau rhwng y perfformiwr a’r tîm cynhyrchu ar gyfer creu cynnwys agos. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyfathrebu, cytuno ar flaenoriaethau ac adnoddau sy’n ymwneud â golygfeydd, lleoliadau ac amserlenni ffilmio.

Mae hefyd yn cynnwys argymell adnoddau gan gynnwys deunyddiau a chefnogaeth broffesiynol a allai fod eu hangen er mwyn i’r agosatrwydd ddigwydd. 

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. trafod y sgript a’r cynnwys agos arfaethedig gyda’r perfformiwr
  2. cytuno ar gwmpas noethni a/neu weithredu agos gyda’r perfformiwr
  3. cadarnhau paramedrau ar gyfer agosatrwydd gyda’r perfformwyr
  4. hwyluso trafodaethau gyda pherfformwyr a’r tîm cynhyrchu ar gynnwys penodol cytunedig
  5. adnabod adnoddau, deunyddiau a chymorth proffesiynol a allai fod eu hangen
  6. cadarnhau lefelau cydsynio a monitro cydsyniad parhaus
  7. awgrymu ffyrdd eraill o gwrdd â’r brîff creadigol wrth gynnal lefelau cydsynio’r perfformwyr yr un pryd
  8. cadw cofnodion o gytundebau a chydsyniad yn unol â deddfwriaeth diogelu data a pholisïau cynhyrchu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i drafod gofynion agosatrwydd gyda pherfformwyr
  2. sut i gadarnhau’r lefelau noethni sydd wedi’u nodi a’u cytuno arnynt
  3. sut i drafod gyda’r tîm cynhyrchu a’r perfformwyr er mwyn dod i gytundeb
  4. pwysigrwydd deall a llywio’r tensiwn rhwng y gofynion creadigol a’r agosatrwydd sydd wedi’i gydsynio
  5. elfennau o gydsynio, sut cânt eu cyflwyno, a sut maent yn ymwneud â chreu cynnwys agos
  6. sut mae deinameg pŵer yn bresennol wrth greu cynnwys agos ac yn gallu effeithio ar allu perfformwyr i gydsynio
  7. beth yw cydsyniad parhau a sut i’w gynnal
  8. sut i gytuno ar yr adnoddau sydd eu hangen gyda’r bobl berthnasol o fewn yr amserlenni i ganiatáu i gynlluniau ddigwydd
  9. pwysigrwydd setiau caeedig
  10. sut i greu a chynnal dogfennaeth gan gynnwys dogfennaeth agosatrwydd
  11. pwysigrwydd cydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau cynhyrchu

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC2

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;