Codi ymwybyddiaeth o rôl cydlynwyr agosatrwydd

URN: SKSIC10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o rôl cydlynwyr agosatrwydd ar gyfer cynyrchiadau a chynnal uniondeb y rôl. Mae’n cynnwys datblygu cynllun hyfforddi ac ymwybyddiaeth yn unol ag anghenion y cynhyrchiad.

Mae’r safon yn cwmpasu darpariaeth hyfforddiant, darparu cymorth a chyngor a sicrhau bod polisïau a phrosesau wedi’u hymgorffori mewn cynhyrchiad. 

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. hyrwyddo a chyfathrebu manteision defnyddio cydlynwyr agosatrwydd mewn cynyrchiadau
  2. asesu ymwybyddiaeth o rôl cydlynwyr agosatrwydd ymhlith y cast, y criw, y bobl greadigol a’r rhai sy’n cyfrannu
  3. datblygu cynllun hyfforddi agosatrwydd yn unol ag anghenion y cynhyrchiad
  4. datblygu cynllun ymwybyddiaeth agosatrwydd sy’n ategu ac yn cefnogi’r hyfforddiant gaiff ei ddarparu
  5. adnabod cysylltiadau’r cynhyrchiad ar gyfer cyfathrebu gwybodaeth agosatrwydd, hyrwyddo cydymffurfiaeth ac adrodd am feysydd sydd angen gwella
  6. darparu cymorth a chyngor i’r cast, y criw, y bobl greadigol a’r rhai sy’n cyfrannu yn unol ag anghenion a nodwyd a’r cynllun ymwybyddiaeth agosatrwydd
  7. gwybod y diweddariadau ynghylch arfer gorau ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd er mwyn parhau i ddatblygu arbenigedd personol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodau, amcanion a hyrwyddo rôl y cydlynydd agosatrwydd
  2. strwythur y cynhyrchiad a’i anghenion hyfforddi agosatrwydd
  3. diwylliant y cynhyrchiad a chwmpas y risgiau agosatrwydd sy’n gysylltiedig ag o
  4. y gofynion a’r safonau cyfreithiol a rheoleiddiol cyfredol sy’n berthnasol i gynhyrchu mewn perthynas â chynnwys agos gan gynnwys amddiffyn gweithwyr a gweithio gyda phlant
  5. egwyddorion llywodraethu da, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol ac arferion moesegol sy’n berthnasol i gydlynu agosatrwydd
  6. sut mae gofynion creu cynnwys agos yn cysylltu â chynllunio’r cynhyrchiad, gosod y gyllideb a gwneud penderfyniadau creadigol
  7. sut i integreiddio fframweithiau ymarfer proffesiynol ar gyfer creu cynnwys agos mewn cynyrchiadau
  8. pwysigrwydd ymgorffori arfer gorau ar gyfer perfformiad cynaliadwy o greu cynnwys agos a dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  9. y mathau o hyfforddiant, cymorth a chyngor a allai fod eu hangen a’r dulliau y mae modd eu defnyddio er mwyn darparu’r rhain
  10. ffynonellau gwybodaeth gyfredol ar arfer gorau wrth fodloni gofynion cydlynu agosatrwydd

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC10

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad; cymorth; risgiau;