Dehongli brîff i adnabod gofynion creu cynnwys agos

URN: SKSIC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cydlynu Agosatrwydd ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dod i gytundeb a rhannu dealltwriaeth o’r brîff a’r weledigaeth greadigol o gynhyrchiad a’r lefelau agosatrwydd gofynnol yn ystod y broses cyn-gynhyrchu. Bydd angen adnabod risgiau a rhoi cynllun gweithredu ar waith er mwyn bodloni’r gofynion creu cynnwys agos.

Bydd angen ichi gysylltu gyda Phenaethiaid Adrannau, ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill er mwyn sicrhau bod y gofynion yn cydymffurfio â deddfwriaeth a phrotocolau. 

Mae’r safon hon ar gyfer cydlynwyr agosatrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli a dadansoddi brîff i adnabod arc yr agosatrwydd ac adnabod gofynion agosatrwydd
  2. cysylltu gyda phobl greadigol a phenaethiaid adrannau am ofynion y brîff a’r weledigaeth greadigol
  3. asesu’r dadansoddiad ar gyfer risgiau a chwmpas y gofynion agosatrwydd
  4. adnabod adnoddau a chymorth proffesiynol a allai fod eu hangen
  5. awgrymu gwelliannau neu ddewisiadau amgen os nad yw’r cysyniad gwreiddiol yn ymarferol
  6. cydweithio gyda phenaethiaid adrannau i wirio dichonoldeb technegol y brîff
  7. cadarnhau gyda’r tîm cynhyrchu bod modd mynd i’r afael â’r gofynion agosatrwydd
  8. cydymffurfio â deddfwriaeth, polisïau cynhyrchu a rheoliadau gan gynnwys rheoliadau undeb a diogelu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gael y brîff cynhyrchu a dehongli’r gofynion agosatrwydd
  2. sut mae’r broses gynhyrchu yn gweithio a sut caiff elfennau o fewn hyn eu cyflawni
  3. gwahanol fathau o agosatrwydd a sut i’w gwerthuso, a’u mesur yn nhermau risg
  4. gofynion gweledigaeth greadigol a sut i fodloni’r rhain, o fewn y gyllideb sydd ar gael a’r amserlen gynhyrchu
  5. sut i adnabod, asesu a lliniaru risgiau a pheryglon sy’n ymwneud â’r olygfa
  6. yr adnoddau posibl a’r gefnogaeth broffesiynol a allai fod eu hangen
  7. yr amserlen gynhyrchu
  8. sut i greu cynllun gweithredu agosatrwydd neu draciwr
  9. rôl adrannau eraill, yn enwedig Gwisgoedd, Gwallt a Cholur, Propiau, Camera, Styntiau, Effeithiau Arbennig Corfforol a Gweledol a sut i weithio ar y cyd gyda’r rhain
  10. i bwy ddylid rhoi gwybod am broblemau neu anawsterau posibl i’r cynhyrchiad
  11. y ddeddfwriaeth, polisïau a’r gofynion sy’n berthnasol i agosatrwydd sy’n ymwneud â’r olygfa a’r amgylchedd gwaith ar gyfer y cast a’r criw

Cwmpas/ystod

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Cwmpas Perfformiad

Noethni a chynnwys agos 

  1. Noethni llwyr: yn cynnwys noethni blaen llwyr, noethni cefn llwyr
  2. Lled-noethni / Noethni rhannol: noethni uwchben y wast, noethni o dan y wast
  3. Rhannau penodol ychwanegol artistiaid
  4. Cyflwr dadwisgo
  5. Noethni ymhlyg
  6. Rhyw wedi’i efelychu
  7. Rhyw ymhlyg
  8. Corff dwbl
  9. Noethni digidol
  10. Cusanu

Adnoddau

  1. Dillad gweddus
  2. Merkin neu wig blew cedor
  3. Rhwystrau
  4. Gwallt, colur a phrosthetig
  5. Propiau
  6. Goleuadau neu offer arbenigol

Dogfennaeth IC

  1. Asesiad risg agosatrwydd
  2. Dadansoddiad agosatrwydd / Tracwyr
  3. Nodiadau coreograffi
  4. Nodiadau lefel cydsyniad
  5. Memos y cast a’r criw
  6. Nodiadau atodiad noethi/agosatrwydd
  7. Adroddiadau dilynol
  8. Adroddiadau cloi ‘wrap’
  9. Cytundebau peidio â datgelu (NDAs)

Cymorth proffesiynol

  1. Cydlynydd mynediad ac Ymgynghorydd anabledd
  2. Hwylusydd lles
  3. Meddyg
  4. Cydlynydd styntiau
  5. Bydwraig ymgynghorol
  6. Ymgynghorydd Rhyw/Traws/LGBTQIA+
  7. Ymgynghorydd BDSM/Ffetis
  8. Ymgynghorydd diwylliannol
  9. Ymgynghorydd hanesyddol
  10. Hebryngwyr/Gwarchodwyr

Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIC1

Galwedigaethau Perthnasol

Cydlynydd Agosatrwydd Arweiniol, Cydlynydd Agosatrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydlynydd agosatrwydd: creu cynnwys agos: gofynion agosatrwydd; cydsyniad: cymorth; risgiau: perfformwyr: cynhyrchydd; cyfarwyddwr; cast, criw a chyfranwyr;